blog

Pethau hwyliog i’w gwneud yng Nghaerdydd gyda’r Plant dros y Pasg hwn

Oes angen rhai syniadau arnoch chi i gadw’r plant yn brysur yn ystod Gwyliau’r Pasg?  Darganfod beth sy’ ‘mlaen i blant yng Nghaerdydd y Pasg hwn!

Er mwyn helpu teuluoedd i wneud y gorau o’u gwyliau Pasg, dyma ambell syniad gan Maethu Cymru Caerdydd er mwyn helpu i gadw’r plant yn ddiddig, heb dorri’r banc.

Rydym wedi dod o hyd i lwyth o ddigwyddiadau hwyliog dros y gwyliau y bydd y plant – a’ch waled – wrth eu bodd â nhw. O opsiynau dan do i’r awyr agored anhygoel, bydd digon o hwyl i’w gael i bawb y Pasg hwn yng Nghaerdydd.

Hwyl y gwyliau yng Nghastell Caerdydd

Diddanwch y teulu a mwynhau’r atyniad, ‘Black Tower Tales’ sy’n dod â chyfnod cythryblus o hanes Cymru’n fyw, lle byddwch yn darganfod hanes brwydr ganoloesol yr arwr Cymreig lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg. 

Gellir prynu Black Tour Tales yn y Swyddfa Docynnau gyda thocyn Mynediad Cyffredinol.  Mwy o wybodaeth yma.

Diwrnod allan yn Techniquest

Fe welwch bob math o beiriannau anhygoel a dyfeisiau rhyfedd i’w harchwilio, gyda dros 100 o arddangosion ymarferol wedi’u gosod ar draws dau lawr.

Dros wyliau’r Pasg eleni, bydd sioe wyddoniaeth fyw newydd ‘Flower and Eggs’.

Ymunwch ag un o gyflwynwyr gwych techniquest mewn sioe sy’n llawn ffeithiau diddorol ac arddangosiadau deinamig, gan gyflwyno cyfle euraid i archwilio byd rhyfeddol wyau!

Mae sesiynau gwyliau yn tueddu i lenwi’n gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw lle ymlaen llaw yma.

Ewch i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer.  Mae gan yr amgueddfa hon le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru gan mai amgueddfa’r bobl yw hi, lle gallwch archwilio hanes gyda’ch gilydd drwy fywydau bob dydd pobl.

Ymunwch â’r llwybr Pasg blynyddol eleni am antur yn llawn hwyl. Bydd angen i chi ddatrys posau a datgelu cliwiau, cyn cychwyn ar helfa i ddod o hyd i’r wyau Pasg lliwgar sydd wedi’u cuddio o amgylch yr Amgueddfa. Bydd y llwybr ar agor o 12 – 21 Ebrill.

Archebwch eich tocynnau yma Llwybr y Pasg: Sain Ffagan

Gallwch Ddarganfod Mamoth yn yr Amgueddfa Genedlaethol

Ewch i weld preswyliwr diweddaraf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sef sgerbwd mamoth gwlanog tair metr o uchder, pum metr o hyd wedi ei argraffu ar 3D, yn y Brif Neuadd, gan gynnig cyfle unigryw i ymwelwyr werthfawrogi maint a hanes y creaduriaid hynafol hyn. Gyda mynediad am ddim ac amrywiaeth o arddangosfeydd diddorol, mae’r amgueddfa yn darparu profiad cyfoethogi i bob ymwelydd.

Story Time

Stories From Our Carers