pam maethu gyda ni?
pam dewis ni?
pam ein dewis ni?
Nid eich asiantaeth faethu safonol yw Maethu Cymru Caerdydd. Mae hynny oherwydd ein bod ni’n rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw Awdurdodau Lleol Cymru.
Pan rydych chi’n gweithio gyda ni, rydych chi’n gwybod eich bod chi’n dewis pwrpas dros elw. Gweithio fel tîm i greu dyfodol mwy disglair i blant lleol ym mhrifddinas Cymru.
Creu dyfodol gwell i blant lleol. Dyma sydd bwysicaf.
ein cenhadaeth
Yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru, mae yna blant sydd ein hangen ni, ac maen nhw eich angen chi hefyd.
Mae gan bob plentyn stori unigryw. Mae rhai yn fabanod, yn blant bach, yn bobl ifanc yn eu harddegau, yn frodyr a chwiorydd a hyd yn oed yn rhieni ifanc. Mae ein plant yn adlewyrchu bywiogrwydd ac amrywiaeth Caerdydd fel prifddinas.
Mae ein cenhadaeth i bob plentyn yr un fath: rhoi cymorth a sefydlogrwydd. Creu dyfodol
mwy disglair, fel bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial.
ein cymorth
Mae bod yn rhan o Maethu Cymru yn ymwneud â chymorth. I chi, a’r rheini sydd yn eich gofal.
Mae gennyn ni dimau o arbenigwyr hyfforddedig a gofalwyr maeth profiadol sydd wedi bod yno o’r blaen i gynnig y cyngor, y ddealltwriaeth a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch chi i helpu’r rheini sydd yn eich gofal.
ein ffyrdd o weithio
Mae cysylltu a chydweithio â chymuned Caerdydd wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n creu dyfodol gwell i blant lleol drwy gydweithio.
Mae gan bob plentyn anghenion unigryw. Mae’r un peth yn wir am ein gofalwyr maeth. Ein rôl ni yw helpu plant a gofalwyr i fod y gorau y gallan nhw fod, drwy fod yn nhw eu hunain. Rydyn ni’n eu helpu i wneud y gorau o’u talentau ac yn cefnogi eu twf a’u datblygiad bob cam o’r ffordd.
eich dewis
Mae dewis Maethu Cymru Caerdydd yn golygu dewis gweithio gyda phobl sy’n malio. Pobl sy’n poeni am eu cymuned ac sy’n poeni am eu rolau.
Rydyn ni’n cynnig yr holl arweiniad, hyfforddiant a manteision ariannol sydd eu hangen arnoch chi i fod y gofalwr gorau y gallwch chi fod ac i wneud y dewisiadau iawn i’ch teulu.
Cysylltwch â ni a chymerwch y cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth yng Nghaerdydd heddiw.