ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Does unman yn debyg i gartref. Lle diogel yn llawn cariad. Rhywle sy’n perthyn i chi.

Mae maethu’n golygu darparu’r cartref hwnnw. Gall fod am gyfnod byr neu gall fod yn fwy hirdymor.

Does dim dau blentyn yr un fath, felly mae angen gofal maeth unigryw ar bob plentyn.

gofal maeth tymor byr

Blonde girl looking at ice cream through window

Mae maethu tymor byr yn unrhyw beth o ychydig oriau i ychydig fisoedd neu flynyddoedd.

Mae gofalwr maeth tymor byr yn darparu lle diogel i blentyn tra bo cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cael eu gwneud. Efallai y bydd eich rôl yn cynnwys tywys plentyn at ei deulu, i gartref maeth arall neu i gael ei fabwysiadu.

Group of teenagers laughing

Mae arhosiad byr yn gallu bod yn fan cychwyn i rywbeth trawiadol. Y camau cyntaf ar daith gyffrous sy’n newydd i bob plentyn yn ein gofal, â phob gofalwr maeth hefyd.

gofal maeth tymor hir

Two adults and two children walking in the woods

Mae gofal maeth tymor hir yn golygu cartref diogel a chariadus gyda theulu gwahanol i blant sydd ddim yn gallu byw gartref.

A young boy and an adult are putting pizza in the oven

Mae llawer o feddwl a gofal yn mynd i baru’r bobl iawn ar gyfer gofal tymor hir. Mae gofal maeth tymor hir yn darparu lle diogel i blentyn – ac yn cynnig sefydlogrwydd tymor hir. Mae hyn yn golygu bod y plentyn yn dod yn rhan o deulu maeth sefydlog a diogel am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol sydd angen math penodol o gymeradwyaeth gan gynnwys:

Members of the Jukebox Collective Dance Group performing in Queen Street Cardiff

seibiant byr

Gall seibiant byr (sydd hefyd cael ei alw’n ‘ofal cymorth’) olygu derbyn plentyn dros nos, yn ystod y dydd neu ar benwythnosau. Mae’r rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw fel arfer ac maen nhw’n gallu bod yn ddigwyddiadau rheolaidd i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd maeth.

Mae maethu seibiant byr (y cyfeirir atynt yn flaenorol fel maethu seibiant) yn faethu tymor byr, yn aml am ychydig ddyddiau’n unig ac fel arfer maent i ganiatáu peth amser neu seibiant i’r teulu neu’r prif ofalwyr maeth. Rydym yn chwilio am ofalwyr sy’n gallu gofalu am grwpiau brodyr a chwiorydd yn ogystal â phlant ar eu pennau eu hunain o bob oed. Os ydych yn teimlo y gallech ofalu am blentyn am dymor byr, cysylltwch â ni.

Young boy in wheelchair at shopping centre with adult female

plant ag anableddau

Mae nifer o blant yn derbyn gofal gartref, a fyddai’n elwa’n fawr o seibiannau byr allan o gartref y teulu er mwyn cynnig cyfleoedd cymdeithasol ychwanegol iddynt fel unigolion ac egwyl fer o’u  cyfrifoldebau gofalu i’w rhieni a’u gofalwyr.  Os ydych chi’n teimlo y gallech chi gynnig gofal dros nos i blentyn neu berson ifanc ag anghenion ychwanegol a bod yn rhan o’r tîm sy’n gwneud eu byd yn lle gwych, rydym eisiau clywed gennych.

Baby with two adults in kitchen

rhiant a phlentyn

Efallai fod gennych chi lawer o wybodaeth werthfawr am fagu plant y gallwch chi ei rhannu â’r genhedlaeth nesaf. Dyna beth mae lleoliadau rhieni a phlant yn ei gynnig: helpu rhieni i feithrin y sgiliau bywyd sydd eu hangen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu gofalu am eu plant a’u hunain.

Ein nod yw cefnogi rhieni a’u plant i aros gyda’i gilydd pryd bynnag y bydd y gallwn.  Ac rydym am gynyddu nifer y lleoliadau i rieni a phlentyn rydyn ni’n eu cynnig er mwyn gwneud hyn. Fel gofalwr maeth ar gyfer lleoliadau i rieni a phlentyn, gofynnir i chi arsylwi a rhoi cymorth ac arweiniad i gefnogi’r rhieni i ofalu am eu plant.

Adult and young boy blowing dandelion together in woods

gofal therapiwtig

Weithiau, mae angen gofal gwahanol ar blant sydd ag anghenion ymddygiadol neu emosiynol mwy cymhleth. Weithiau mae angen unigolion sydd â sgiliau neu brofiadau penodol, neu haen ychwanegol o gymorth gan ein tîm.

A young boy and a young girl are playing football in the garden

cynllun pobl ifanc

Rydym yn recriwtio gofalwyr maeth ar gyfer ein cynllun pobl ifanc. Fe’i gelwir hefyd yn breswyl i faethu neu’n faethu cam-i-lawr, ac mae’n gynllun sy’n helpu pobl ifanc i fyw o fewn teuluoedd maeth. Bydd gofalwyr sy’n cael eu dewis yn llwyddiannus yn derbyn cyfradd uwch i adlewyrchu’r amser, y sgìl a’r meithrin y gallai fod eu hangen ar y lleoliadau hyn.
Rydym yn chwilio am ofalwyr sy’n allblyg a chreadigol ac yn barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau ochr yn ochr â’n pobl ifanc i fagu eu hyder a’u hunan-barch o fewn y cartref ac mewn gweithgareddau cymunedol.

A young girl and a young boy smile as they chat in the garden

brodyr a chwiorydd

Mae dwywaith mwy o hwyl a boddhad yn bosibl o ofalu am bâr o frodyr neu chwiorydd. Rydyn ni’n gweithio tuag at gadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd gan eu bod yn deall beth maen nhw wedi bod drwyddo. Rydym yn gwybod, pan fydd brodyr a chwiorydd yn cael eu cadw gyda’i gilydd, bod canlyniadau iechyd meddwl gwell i blant a llai o symud lleoliadau. Rydym yn chwilio am ofalwyr sydd yn ymhyfrydu mewn sefyllfaoedd teuluol a allai ddarparu gofal i frodyr a chwiorydd. Bydd hyn yn cynnwys gofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd fel eu bod yn gallu parhau i fyw gyda’i gilydd pan nad ydyn nhw’n gallu bod gartref.

Adult and young girl holding hands

cynllun gwely brys

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ofalwyr maeth i ddarparu gofal brys i blant mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Bydd y trefniadau hyn yn para hyd at 15 diwrnod fel y gallwn ddod i adnabod y plentyn neu’r person ifanc a naill ai weithio gyda’n gilydd a’r plentyn a’r teulu er mwyn iddo ddychwelyd adref yn ddiogel neu symud ymlaen i leoliad sydd wedi’i baru.

Gan y byddwch ‘ar alwad’ yn barod i berson ifanc gyrraedd gyda chi, telir tâl cadw am y cyfnodau o amser nad oes person ifanc mewn lleoliad (mae telerau ac amodau’n berthnasol).

Teenage boy with adult female planting seedlings in greenhouse

maethu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa

Fel y gwyddoch o’r cyfryngau, mae yna adegau pan fydd plant a phobl ifanc yn cyrraedd y DU, heb unrhyw riant neu ofalwr.  Mae’r plant a’r bobl ifanc hyn angen gofal a chymorth i ddeall eu hamgylchedd a’u bywyd newydd heb eu teulu o’u cwmpas.  Mae’n gallu bod yn gyfnod brawychus ac rydym wrthi’n chwilio am ofalwyr maeth a fyddai’n gallu cefnogi plant a phobl ifanc yn yr amgylchiadau hyn.  Os oes gennych ystafell sbâr ac yn teimlo y gallech chi letya plant a phobl ifanc ar yr adegau hyn, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Young boy with adult male at skate park

Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc (CAPI)

Mae CAPI yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd sy’n wynebu problemau cymhleth a chwalfa deuluol gartref. Mae CAPI yn cynnig pecyn cymorth cryfderau seiliedig ar drawma i helpu i ddod â theuluoedd at ei gilydd. Fel rhan o’r pecyn hwn mae CAPI’n cynnig seibiant i bobl ifanc am 1-3 noson am gyfnod o 6-12 wythnos am un noson yr wythnos i helpu i roi lle ac amser i rieni a’u plant weithio ar eu perthynas. Os ydych yn teimlo y gallech gefnogi pobl ifanc sy’n aros gartref, drwy ddarparu’r cymorth hwn o’ch cartref eich hun, cysylltwch â ni

Teenage boy with adult female planting seedlings in greenhouse

ddarparwr llety â chymorth

Mae gwahanol fathau o faethu a gwahanol rolau y gall gofalwyr eu chwarae, ond os nad yw maethu yn iawn i chi ar hyn o bryd, yna efallai y byddwch am ystyried dod yn ddarparwr llety â chymorth.

Mae ein Darparwyr Llety â Chymorth yn cynnig ystafell sbâr yn eu cartref i bobl ifanc 16 i 21 oed sydd angen cymorth ac arweiniad cyn y gallant fyw’n annibynnol.  Maent yn croesawu pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl ifanc mewn gofal neu blant digartref 16/17 oed yn benodol. Mae Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc nad ydynt efallai’n barod i fyw ar eu pennau eu hunain ac sydd angen ychydig o arweiniad a chymorth. dysgwych mwy

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.