ffyrdd i maethu

pwy all faethu

pwy all faethu yng nghaerdydd?

Mae pob plentyn yn unigryw, gyda’i bersonoliaeth a’i anghenion ei hun. Fodd bynnag, ar draws Caerdydd yr hyn y mae ar blant ei wir angen yw rhywun i gredu ynddyn nhw.

Gallai’r person hwnnw fod yn chi. P’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl, p’un ai ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, beth bynnag fo’ch ethnigrwydd neu eich cyfeiriadedd rhywiol.

mythau maethu: Gwahanu ffeithiau oddi wrth ffuglen

Mae maethu yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned leol. Felly, mae’n gwbl briodol bod ein gofalwyr yn adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol prifddinas Cymru.

O ran pwy sy’n gallu maethu, rydyn ni’n gofyn: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Mae bywyd modern yn brysur, rydyn ni’n deall hynny. Os yw eich amserlen yn llawn dop, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch yn eich rôl fel gofalwr maeth, a hynny gan deulu a ffrindiau. Ond peidiwch â gweld eich gyrfa amser llawn fel rhwystr i’ch gofal maeth.

Efallai y bydd angen meddwl yn fwy gofalus am bethau os oes gennych chi  fywyd prysur. Does dim dwywaith am hyn – mae maethu’n ymrwymiad sy’n galw am dîm. Byddwch chi’n gweithio gyda chymysgedd o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, athrawon a therapyddion. Ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel yn lle rydych chi’n byw, yna fe ddylai plentyn deimlo’n ddiogel hefyd. Does dim ots os ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais. Gallwn ni helpu i weld beth sy’n gweithio orau i’ch amgylchiadau chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Dydy’r teulu maeth arferol ddim yn bodoli. Os oes gennych chi blant eich hun yn barod, mae gofalu am blentyn maeth yn golygu ymestyn eich teulu i garu a gofalu am ragor o bobl.

Mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn gallu bod yn hynod o werth chweil. Mae’n gallu rhoi profiadau newydd i’ch plant a’u helpu i ffurfio cyfeillgarwch fydd yn para am oes. Mae hefyd yn gallu datblygu eu gallu i ofalu am eraill.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer bod yn ofalwr maeth. Gallwch chi ddechrau ar y daith hon yn eich 20au neu yn eich 70au. Ni waeth beth yw eich oedran, byddwn ni’n sicrhau eich bod chi’n cael yr holl gymorth a hyfforddiant lleol arbenigol sydd eu hangen arnoch chi i fod y gofalwr gorau y gallwch chi fod.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf na therfyn oedran isaf chwaith. Er bod profiad bywyd yn fonws defnyddiol iawn, dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch chi faethu. Gyda’n rhwydwaith cymorth cynhwysfawr i’ch arwain, gallwch fwynhau’r daith, beth bynnag fo’ch oedran.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Mae sefydlogrwydd yn rhywbeth sydd ei angen ar bob plentyn. Does dim ots p’un ai ydych chi’n sengl neu mewn perthynas, cyn belled â’ch bod chi’n gallu cynnig cartref da a’r agwedd iawn. Bydd eich tîm Maethu Cymru Caerdydd yn eich helpu i weld ai dyma’r amser iawn i chi ddechrau maethu.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch. Dydy eich rhywedd ddim yn cael unrhyw effaith ar a fyddwch chi’n ofalwr maeth da. Eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar sydd bwysicaf.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor o ran gofal maeth. Y ffactorau pwysicaf yw eich ymrwymiad i fod yn ofalwr sy’n gwrando ac yn gofalu am y plentyn ac yn rhywun sy’n gallu cynnig lle diogel iddo fyw.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Dydy cael ci, cath, neu unrhyw fath arall o anifail anwes, ddim yn golygu na allwch chi fod yn ofalwr maeth. Byddwn ni’n cynnwys anifeiliaid anwes yn eich asesiad, er mwyn gwneud yn siŵr y byddan nhw ac unrhyw blant maeth yn y dyfodol yn cyd-dynnu.

Mae anifeiliaid anwes yn aml yn gallu bod yn fuddiol dros ben ac maen nhw’n gallu cynnig math gwahanol o gymorth mewn teulu maeth.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae gan bob Awdurdod Lleol bolisi gwahanol ar ysmygu a gofal maeth (mae hyn yn cynnwys e-sigaréts). Gallwn gynnig arweiniad ar sut i roi’r gorau i ysmygu, os hoffech chi. Fel gyda phob rhan o’n proses faethu, mae’n ymwneud yn ei hanfod â dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu a’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Rydyn ni’n deall nad yw unrhyw swydd yn ddiogel a bod gwaith yn gallu bod yn gyfnewidiol. Mae bod yn rhiant maeth da yn golygu bod ar gael i gynnig cymorth, arweiniad a chariad bob dydd pwy bynnag fo’ch cyflogwr.

Os nad oes gennych chi swydd, neu os yw eich gwaith o dan fygythiad, gallwch chi faethu o hyd. Byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi ddechrau maethu.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Os oes gennych chi galon fawr, does dim angen cartref mawr arnoch chi. Does dim rhaid i chi fod â phlasty na thŷ enfawr i faethu plentyn. Yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw ystafell sbâr lle gall plentyn deimlo’n gartrefol.

rhagor o wybodaeth am faethu

A young boy and a young girl are having a conversation outside

mathau o faethu

Gallwch chi wneud gwahaniaeth mewn cymaint o ffyrdd. Gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu hyd yn oed fwy.

dysgwych mwy
A young girl and a young boy smile as they chat in the garden

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwych mwy
A family enjoying a good time by the river

manteision a chymorth

Mae maethu’n rhoi boddhad mewn cymaint o ffyrdd. Dyma beth rydyn ni’n ei gynnig.

dysgwych mwy
Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.