22 Mai 2026, 9:00am – 4:30pm
St Davids Dewi Sant, Bridge St, St Davids Centre, Cardiff CF10 2EF
gwybodaeth bellachsut mae'n gweithio
O’r eiliad y byddwch chi’n cysylltu â ni yma ym Maethu Cymru Caerdydd, bydd eich taith ar droed. Byddwn ni’n eich tywys drwy’r broses o fod yn ofalwr maeth gyda digon o wybodaeth a chymorth. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl.
Mae’n dechrau gydag ymholiad cychwynnol. Cyn gynted ag y byddwch chi’n codi’r ffôn neu’n anfon e-bost aton ni, rydych chi ar y ffordd.
Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi drwy ymweld â’ch cartref. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn dechrau gyda galwad fideo. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin perthynas â chi. Byddwn ni eisiau dechrau dod i adnabod y bobl sydd bwysicaf i chi a darganfod ble rydych chi’n ei alw’n gartref.
Yn ystod cam cyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad, byddwch chi’n dysgu mwy am faethu, er mwyn i chi fod yn siŵr mai dyma’r dewis iawn i chi. Enw’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu “Sgiliau Maethu”. Bydd hyn yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu gyda’r nos. Mae’r camau cynnar hyn yn ymwneud â datblygu gwybodaeth, cysylltiadau a rhwydweithiau gwerthfawr a hirdymor.
Dyma gyfle gwych i gymharu nodiadau gyda gofalwyr maeth eraill sy’n dechrau arni ar yr un pryd â chi. Mae ein hyfforddiant “Sgiliau Maethu” yn cael ei ddarparu gan un o’n teuluoedd maeth profiadol a bydd yn rhoi darlun go iawn i chi o sut beth yw bod yn ofalwr maeth.
Peidiwch â phoeni, dydy hwn ddim yn brawf. Mae’n gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi a’ch teulu.
Mae maethu yn ymdrech gan y teulu cyfan, a pho fwyaf rydyn ni’n ei wybod, y gorau y gallwn ni sicrhau bod unrhyw blentyn rydych chi’n gofalu amdano yn cyd-dynnu â’ch teulu, a’i fod yn gallu elwa o’ch sgiliau, eich gwybodaeth a’ch ffyrdd unigryw o weithio.
Gallwch chi hefyd ei ddefnyddio fel amser i sgwrsio am unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych chi. Mae ein hasesiadau’n ystyried cryfderau a gwendidau eich teulu i gyd, ac maen nhw’n cael eu cynnal gan dîm Maethu Cymru Caerdydd.
Bydd yr asesiad yn cael ei ystyried gan grŵp o aelodau profiadol o’r panel, sy’n gwneud argymhellion fydd yn cyd-fynd â sefyllfa eich teulu.
Mae aelodau panel Maethu Cymru Caerdydd yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol ac aelodau annibynnol. Mae pob aelod yn brofiadol ac yn wybodus. Maen nhw yno i sicrhau ein bod ni’n gwneud y peth iawn i’r bobl ifanc sydd ei angen fwyaf.
Ar ôl i’r panel gymeradwyo eich asesiad, mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi popeth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae hyn yn cynnwys y cyfrifoldebau dyddiol rydych chi wedi ymrwymo iddyn nhw, a’r arweiniad a’r cymorth ehangach y byddwch chi yn eu cael fel rhan o’ch ymrwymiad enfawr.
Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys yr arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn ni’n eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith cefnogi.