pam maethu gyda ni?
cefnogaeth a manteision
cyllid a lwfansau
Mae bod yn ofalwr maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru Caerdydd yn golygu y byddwch yn cael lwfansau ariannol hael a defnyddiol iawn. Mae’r cymorth hwn yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau fel y math o faethu y byddwch chi’n ei wneud, faint o blant y byddwch yn gofalu amdanyn nhw, ac am ba hyd.
Er enghraifft, ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, mae rhai Gofalwyr Maeth yn derbyn rhwng £21,411 a £23,257 y flwyddyn ar gyfer gofalu am un plentyn maeth.
manteision eraill
Mae cymaint o fanteision i fod yn ofalwr maeth. Ochr yn ochr â’r cymorth a’r lwfansau ariannol, yng Nghaerdydd byddwch hefyd yn cael y canlynol:
- Pecyn cynhwysfawr o gymorth, gan gynnwys grwpiau cefnogi arbenigol.
- Ffi canfod o £500 pan fydd Gofalwr Maeth yn argymell rhywun sydd wedyn yn cael ei gymeradwyo fel Gofalwr Maeth yng Nghaerdydd.
- Tocynnau am ddim neu am bris gostyngol i gyngherddau cyfeillgar i deuluoedd sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
- Mynediad am bris gostyngol i rai o brif atyniadau Caerdydd, fel Castell Caerdydd.
ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru
Mae pob un o’n 22 Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o gymorth, hyfforddiant a manteision y cytunwyd arno yw hwn, sydd ar gael i bob gofalwr maeth yng Nghymru.
Byddwch chi’n elwa o’r canlynol:
un tîm
Fel yr Awdurdod Lleol, ni sy’n bennaf gyfrifol am y plant yn ein gofal. Rydyn ni mewn cysylltiad â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â bywyd y plentyn – o weithwyr cymdeithasol i athrawon a gweithwyr gofal iechyd. Rydyn ni i gyd yn un tîm.
Byddwch chi’n rhan werthfawr o’r tîm hwn ym Maethu Cymru Caerdydd. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gysylltiad er mwyn sicrhau bod y plant yn ein gofal a’u teuluoedd maeth yn cael y dyfodol gorau posibl, a byddwch chi’n gweld bod hynny o fudd i chi hefyd.
dysgu a datblygu
Os bydd ein gofalwyr yn dysgu ac yn datblygu fel pobl, yna mae’n amlwg y bydd y bobl yn eu gofal hefyd. Mae gofalwyr ar draws Cymru’n cael yr offer a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw i ddiwallu anghenion y plant sydd yn ein gofal.
I chi, mae hyn yn golygu cynllun datblygu personol i edrych ar eich taith faethu ac i’ch helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy buddiol ochr yn ochr â’ch profiadau maethu unigryw. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn o ran cadw golwg ar eich cynnydd yn ogystal â chynllunio ar gyfer eich dyfodol.
cymorth
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Cofiwch, mae yna dîm ar gael i’ch cefnogi chi ac i’ch annog i fod y gorau y gallwch chi. Eich tîm.
Ar bob cam o’r ffordd, bydd gennych chi weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol i’ch arwain. Byddan nhw yno i chi, i’ch teulu ac i’ch rhwydwaith cyfan.
Hefyd, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o grwpiau cymorth. Yma, byddwch chi’n gallu cwrdd â gofalwyr maeth eraill. Gallwch chi siarad, gwrando, rhannu straeon a phrofiadau. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth gan gymheiriaid gyda phob tîm Maethu Cymru lleol, ac mae’n gwneud byd o wahaniaeth.
Byddwch chi hefyd yn elwa o gymorth broffesiynol werthfawr, pryd bynnag y bydd ei hangen arnoch chi. Bydd hyn ar gael ddydd a nos. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm. Gyda’n gilydd. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Byddwn ni yno.
y gymuned faethu
Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd y byddwch chi wastad yn cael eich gwahodd iddyn nhw. Fe all hyn ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill a gallwch wneud ffrindiau oes. Profiadau newydd. Atgofion newydd.
Mae cyfoeth o wybodaeth a chyngor ar gael ar-lein hefyd, a gallwch chi gael gafael arnyn nhw ar unrhyw adeg. Dydych chi byth ar eich pen eich hun
Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru Caerdydd, byddwch chi hefyd yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig cymorth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a chymorth ychwanegol.
llunio’r dyfodol
Mae pawb ar eu taith bersonol eu hunain, gyda phrofiadau unigryw sy’n siapio pwy ydyn ni heddiw.
Ym Maethu Cymru Caerdydd, y cam nesaf sydd bwysicaf. Dyna pam rydyn ni’n edrych ymlaen, ac rydych chi’n rhan enfawr o’r ffordd rydyn ni’n llunio ein dyfodol.
Mae bod yn rhan o Maethu Cymru Caerdydd yn golygu y byddwch chi wastad yn cael eich clywed er mwyn llunio’r dyfodol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich safbwyntiau ac rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n effeithio ar sut rydyn ni’n symud ymlaen. Er mwyn ein dinas ni a’r plant sy’n byw ynddi.