sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd yn golygu manteisio ar ein cymuned. Mae gennyn ni rwydwaith pwrpasol sy’n rhoi cymorth, arbenigedd ac arweiniad proffesiynol pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Mae Maethu Cymru yn gydweithrediad o 22 Awdurdod Lleol o bob cwr o’r wlad.

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd dros blant Cymru. Rydyn ni’n cefnogi eu teuluoedd maeth. Ac rydyn ni’n cefnogi’r gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gweithio gyda ni bob dydd.

Boy in suburb street in autumn

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Yn wahanol i asiantaethau maethu safonol eraill, rydyn ni’n falch o fod yn sefydliad nid-er-elw. Lles pobl ifanc Cymru yw ein hunig flaenoriaeth.

Rydyn ni hefyd yn frwd dros aros yn lleol: sicrhau bod y plant sydd yn ein gofal yn cadw mewn cysylltiad â’u cymunedau a’u ffrindiau, gan gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth. Dyna pam ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i gadw plant yng Nghaerdydd yn agos at eu cartref, a gweithio gyda gofalwyr maeth yng nghymuned Caerdydd.

Fyddai hyn ddim yn bosibl heb rieni maeth fel chi.

mwy o wybodaeth am maethu cymru caerdydd:

Woman and young girl using computer to make video call