sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
cymorth a lwfans yng Nghaerdydd
sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
Rydyn ni yma i’ch cefnogi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.
Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Caerdydd yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dydy’r cymorth ddim yn dod i ben gyda hynny.
Pan fyddwch chi’n maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:
- arweiniad parhaus gan weithiwr cymorth dynodedig
- tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
- cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
- cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
- a llawer mwy o fuddion
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.
lwfans gofal maeth
ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys
- faint o blant rydych chi’n eu maethu
- oedran y plant
- y math o faethu
Fodd bynnag, dydy bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 sy’n seiliedig gartref ac rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.
Yn Maethu Cymru Caerdydd, mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 rhan: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.
lwfans plentyn
ffi gofalwr maeth
taliadau ychwanegol
ein hymrwymiad i chi
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cymorth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.
cyfleoedd dysgu
Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydyn ni’n cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.
mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?
Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.