ffyrdd o maethu
eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Mae Maethu Cymru’n sefydliad nid-er-elw. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol disgleiriaf posibl ar gyfer plant lleol – dim gwneud elw.
Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru. Rydych chi’n rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, pob un yn cydweithio tuag at yr un nod.
Os nad ydych yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch chi drosglwyddo aton ni. Mae’n hawdd! Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

sut i drosglwyddo
Mae’n syml: yn gyntaf, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Caerdydd drwy lenwi’r ffurflen isod neu drwy ein ffonio ni.
Byddwn ni’n cael sgwrs ac yn gweld sut gallai ymuno â ni weithio i chi. Yna, os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen â’r newid, byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i’ch cefnogi chi i drosglwyddo.

pam trosglwyddo
Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth – ac yng Nghaerdydd y ni yw’r rheini. Felly, ein hangerdd ni, yn ogystal â’n pwrpas ni yw darparu’r lefel uchaf o ofal i blant lleol a’u teuluoedd maeth.
Rydyn ni’n eich helpu i fod y gorau y gallwch fod, gan wneud yn siŵr eich bod chi’n mwynhau’r holl fanteision y gall maethu eu cynnig. Mae eich twf a’ch lles chi’n bwysig i ni, a dyna pam fod cymaint o gyfleoedd i hyfforddi a datblygu yn eich rôl fel gofalwr maeth. Rydyn ni gyda chi bob cam o’r ffordd gyda chymorth, ac anogaeth hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y gorau i’r plant yn ein gofal, ac i’n gofalwyr maeth.
Ydych chi eisiau ymuno â ni? Dewch i gael rhagor o wybodaeth am y manteision a’r cymorth rydyn ni’n eu cynnig.