llety â chymorth

Mae Llety â Chymorth yn ffordd gadarnhaol o helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder i’w galluogi i fyw’n annibynnol yn y dyfodol. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros am tua 6-12 mis cyn symud ymlaen, ond wrth gwrs, mae’n gallu amrywio.

Mae’r cymorth a roddir gan ein darparwyr yn cynnwys:

· Cymorth cyllidebu

· Rheoli golchi dillad

· Sgiliau coginio

· Gwneud ceisiadau am swyddi a llenwi ffurflenni

· Datblygu arferion cadarnhaol

· Cymorth emosiynol

pwy all fyw mewn llety â chymorth?

Pobl ifanc sy’n:

· Derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, 16 neu 17 oed

· Gadael gofal, 16 – 21 oed

· Digartref, 16 neu 17 oed

allaf i fod yn ddarparwr llety â chymorth?

Gall unrhyw un dros 21 oed sy’n byw yn ardal Caerdydd ac sydd ag ystafell sbâr wneud cais i fod yn Ddarparwr Llety â Chymorth.

Nid yw bod â swydd llawn amser yn eich rhwystro rhag cymryd rhan yn y cynllun. Ni fydd p’un a ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu yn effeithio ar eich cais. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a diwylliant ni waeth eu

cyfeiriadedd rhywiol, eu rhyw, na’u statws priodasol. Y prif feini prawf yw y gallwch gynnig amgylchedd diogel a’ch bod yn barod i gefnogi person ifanc.

Caiff ein holl ddarparwyr llety â chymorth eu hasesu a’u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn cynnwys gwiriadau meddygol a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Hwylusir y cynllun gan ein Tîm Llety â Chymorth, sy’n rhan o Wasanaeth Maethu Cymru Caerdydd.

Gall dod yn ddarparwr llety fod yn fenter hynod werthfawr ac mae wir yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl ifanc rydych yn eu cefnogi.

Os ydych yn penderfynu yr hoffech wybod mwy, gallwn gysylltu â chi i drafod y cynllun, i ateb unrhyw gwestiynau ac i drefnu ymweliad cartref os ydych am fwrw ymlaen ymhellach.

faint fydd fy nhaliad wythnosol?

£189 yr wythnos y byddwch yn ei dderbyn fel darparwr llety â chymorth. Bydd disgwyl i chi roi i’r person ifanc ddau bryd / bwyd bob dydd (brecwast / pryd gyda’r nos) ac ystafell wely iddo fe ei hun.

cysylltwch a ni

Cysylltwch â’r tîm Llety â Chymorth os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi person ifanc.

Ffoniwch 029 2087 3797 neu e-bostiwch [email protected]

Neu llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi.