Mae bod yn rhan o deulu maeth yn brofiad sy’n siapio nid yn unig bywydau’r plant sydd mewn gofal ond hefyd y plant yn y teuluoedd maeth eu hunain. Maent yn dysgu, tyfu, ac yn dod o hyd i lawenydd yn y broses o helpu eraill, hyd yn oed drwy’r heriau. Dyma rai myfyrdodau gan blant mewn teuluoedd maethu, gan rannu eu syniadau unigryw.
Prin fod Rory, 12 oed, wedi cael profiadau gyda brodyr a chwiorydd maeth, ac mae’n disgrifio sut mae’r trawsnewidiadau, er yn anodd, yn dod ag ymdeimlad o foddhad:
“Gall ffarwelio fod yn anodd, ond cyn belled â’ dy fod di’n gwybod eu bod nhw’n mynd i gartref diogel, mae’n iawn.”
Dweud hwyl fawr yn aml yw’r rhan anoddaf o faethu. Mae Olivia, 15 oed, wedi bod drwy nifer o’r eiliadau hyn ond yn cael cysur yn y syniad nad yw ffarwelio bob amser yn derfynol:
“Mae pob ffarwel yn wahanol, ond rydym yn hoffi meddwl amdano fel ‘gwelai di’n fuan’ yn hytrach na hwyl fawr. Dwi’n digalonni pan fydd ein babanod yn symud ymlaen, ond wrth fy modd yn eu gweld eto ymhen ychydig wythnosau gyda’u teulu biolegol neu deulu mabwysiadol.”
I Rory, 12 oed, mae bod yn rhan o deulu maeth yn dod â chwmni i mewn i’r cartref ac yn gwneud iddo deimlo’n dda:
“Dwi’n hoffi bod mewn teulu maeth. Mae’n eitha’ tawel efo fi a fy mam, felly mae’n dda cael cwmni o gwmpas y tŷ, a dwi’n cael teimlad da pan ti’n gwneud rhywbeth da i helpu eraill.”
Gall maethu hefyd fod yn destun balchder a chyffro. Mae Benjamin, 12 oed, wrth ei fodd yn rhannu ei daith faethu gyda’i ffrindiau:
“Dwi’n dweud wrth fy ffrindiau bod gennym ni fabi neu blentyn newydd i ofalu amdano. Mae fy ffrindiau’n meddwl ei bod hi’n cŵl bod gen i frodyr a chwiorydd maeth gartref bob amser.”
Ac wrth groesawu plentyn newydd, mae ffyrdd syml, ond ystyrlon o wneud iddynt deimlo’n gartrefol. Dyma Helen, 11 oed, yn rhannu ei hawgrymiadau:
“Gallwch chi groesawu plentyn drwy gael teganau iddo chwarae gyda nhw pan fydd yn cyrraedd, a bod yn gyfeillgar, helpu i ddangos ei ystafell wely ac o gwmpas y tŷ iddo, a rhannu eich rhieni gyda nhw.”
Mae’r plant hyn yn ein hatgoffa o’r gwytnwch, y tosturi a’r cynhesrwydd sy’n dod gyda bod yn rhan o deulu maethu. Mae eu profiadau’n dangos bod maethu nid yn unig yn cynnig diogelwch a gofal i blant sy’n agored i niwed ond hefyd yn dysgu gwersi gwerthfawr am gariad a chefnogaeth i bawb dan sylw.
Eisiau dechrau eich taith faethu eich hun?
Os yw darllen stori’r plant wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom, a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.