stori

taith Naila fel gofalwr maeth yng nghaerdydd

beth wnaeth fy ysbrydoli i faethu

Roeddwn i’n meddwl am faethu am 10 mlynedd. Roeddwn i wedi adnabod pobl oedd yn ofalwyr maeth ac roeddwn bob amser yn edmygu’r gwahaniaeth yr oedden nhw’n ei wneud. Roedd fy ngŵr yn gwybod ei fod yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud, ond roedd eisiau i ni gael ein plant ein hunain gyntaf. Pan oedd ein ieuengaf yn dair oed, dywedodd, “Rwy’n barod i ddechrau maethu nawr,” a dyna pryd dechreuodd ein taith ni.

pam wnaethon ni ddewis maethu brodyr a chwiorydd

I ddechrau, cefais fy nghymeradwyo i ofalu am un plentyn, ond am y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi maethu brodyr a chwiorydd – ac mae wedi bod yn hynod werth chweil. Rwy’n gweithio’n rhan-amser yn y GIG ochr yn ochr â maethu, ac mae’r cydbwysedd yn gweithio’n dda i’n teulu ni.

llawenydd a heriau maethu

Un o’r pethau sy’n rhoi’r llawenydd mwyaf yw gweld y cyswllt a’r ymddiriedaeth yn tyfu. Pan fydd plant yn teimlo’n gyfforddus gartref, rydych chi’n gwybod eich bod chi’n gwneud rhywbeth yn iawn. Na i fyth anghofio pan brynodd un o fy mhlant maeth anrhegion i fi a fy ngŵr o’i harian poced ei hun. Mae gweld ei thrawsnewidiad dros dair blynedd – o gyrraedd gyda heriau, i ffynnu – yn amhrisiadwy.

Wrth gwrs, mae maethu yn cynnwys heriau. Mae’n cymryd amser, amynedd a chysondeb. Mae gosod ffiniau a threfn yn gynnar yn allweddol. Rydw i bob amser yn atgoffa gofalwyr newydd: gwnewch y gwaith ar y dechrau a gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol.

“ai fi yw’r person iawn i faethu?”

Mae llawer o bobl yn poeni nad ydyn nhw’r math iawn o berson. Fy nghyngor i? Peidiwch â gadael i ofn eich dal yn ôl. Mae pob plentyn yn wahanol, ac weithiau nid yw’r paru’n  berffaith – ond rydych chi’n tyfu trwy’r profiad. Rydw i wedi gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau a grwpiau o frodyr a chwiorydd â thrawma. Roedd yn heriol, ond dysgodd wydnwch i fi a phwysigrwydd rhianta therapiwtig. Mae hyfforddiant a chefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr.

cydbwyso gwaith a maethu

Mae fy ngŵr yn gweithio gartref, ac rwy’n gweithio’n rhan-amser yn y GIG. Mae cael cydbwysedd da a chyfathrebu cryf rhyngom yn hanfodol.

dod yn atgyfeiriwr a lledaenu’r gair

Rydw i wedi cyfeirio tri pherson at faethu ac yn aml yn siarad amdano gyda ffrindiau. Yn fy nghymuned i, mae yna ansicrwydd weithiau oherwydd nad yw pobl yn gwybod beth mae maethu’n ei olygu. Ond pan fydd ffrindiau yn gweld y newidiadau cadarnhaol mewn plant, mae eu diddordeb yn cynyddu. Mae’r plant hyn bellach yn rhan o’n teulu ni – maen nhw’n dod i briodasau ac yn dod ymlaen gyda’n holl berthnasau. Mae rhannu’r brwdfrydedd hwnnw’n bwysig.

beth ddylai gofalwyr newydd ei wybod

Deall pwy yw pwy a ble i fynd am gefnogaeth. Mae tîm mawr y tu ôl i chi, ac mae cyfathrebu yn allweddol. Mae angen cariad ac amynedd ar blant – nid ydyn nhw bob amser yn deall pam maen nhw’n teimlo’n ddig. Dros amser, byddan nhw’n ymddiried ynoch chi ac yn eich gweld fel eu oedolyn diogel.

beth mae maethu wedi’i ddysgu i fi

Mae maethu wedi gwneud i fi fyfyrio a gwella fy sgiliau rhianta. Nid yw bob amser yn hawdd – mae yna ddagrau wedi bod – ond mae’r gwobrau yn gorbwyso’r heriau. Pan fydd plant yn dechrau ymddiried ynoch chi, mae’n newid bywyd.

Mae un atgof yn sefyll allan: yn ystod Eid, fe wnaethon ni groesawu merch naw oed am seibiant byr. Cyrhaeddodd gyda’i breichiau wedi’u plygu, yn ansicr beth i’w ddisgwyl. Fe wnaethon ni brynu ffrog newydd iddi ar gyfer y dathliad, ac roedd hi wrth ei bodd cymaint, gofynnodd am esgidiau i fynd gyda’r ffrog. Pan adawodd hi, rhoddodd hi gwtsh mawr i fi. Fe wnaeth y foment honno fy atgoffa pam mae maethu’n bwysig.

eisiau dechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Naila wedi eich ysbrydoli i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. 

Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom, a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych chi’n byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch