
Mae gennym ni gymuned amrywiol o ddarparwyr Llety â Chymorth, gan gynnwys darparwyr sengl fel nyrs ardal Debbie.
Roedd penderfyniad Debbie i fod yn ddarparwr llety â chymorth wedi’i seilio ar sawl ffactor ond rhywbeth a ddylanwadodd arni yn wirioneddol oedd cael rhieni a oedd yn maethu pan oedd hi’n iau.
“Roedd fy rhieni yn ofalwyr maeth pan oeddwn i’n tyfu ac roedd bob amser yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud,” meddai. “Ond pan briodais a chael plant fy hun, fe wnaethon ni symud o gwmpas lot.” Fodd bynnag, ar ôl i amgylchiadau Debbie newid ac iddi wahanu oddi wrth ei gŵr, ail-ystyriodd faethu ond nid oedd wir eisiau mynd yn ôl i ofalu am blant ifanc.
“Gyda dau o fy nhri bachgen wedi symud allan, gan fy ngadael gyda dim ond fy mab 16 oed, roedd gen i ystafell wag ac roeddwn i’n cadw i feddwl bod yna bobl ifanc a allai fod yn ddigartref felly roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn beth braf i’w wneud.”
Yn hytrach, roedd Llety â Chymorth yn teimlo fel dilyniant naturiol a oedd hefyd yn cyd-fynd â’i gyrfa. Wedi’i hysgogi gan ei mam a ddaeth o hyd i hysbyseb ar gyfer llety â chymorth ar-lein, cysylltodd â Chyngor Caerdydd a dechrau ar ei thaith Llety â Chymorth i fod yn ddarparwr.
Cafodd Debbie gynnig ei lleoliad cyntaf fis Hydref diwethaf. Roedd gan Debbie rai pryderon cychwynnol am gynnig ystafell i berson ifanc yn ei chartref. Fodd bynnag, gweithiodd y tîm yn agos gyda Debbie i sicrhau bod y lleoliad yn cyfateb yn dda i’w theulu, yn ogystal â’r person ifanc. Roedd Debbie yn falch o weld bod ei mab a’i pherson ifanc yn cyd-dynnu’n dda iawn. “Mae’n hyfryd gweld y ddau gyda’i gilydd, yn cellwair ei gilydd.”
Gydag anogaeth Debbie mae’r person ifanc wedi gallu cyfuno ei astudiaethau coleg â swydd ran-amser ac o ganlyniad mae wedi gallu cynilo digon o arian i dalu am gwrs o wersi gyrru, gan gymryd cam ymhellach ar y daith tuag at annibyniaeth.
“Mae’r chwe mis diwethaf wedi hedfan heibio,” meddai Debbie, “ac maen nhw wedi cyflawni llawer yn barod. Pan fyddan nhw’n symud ymlaen yn y pen draw, rwy’n gobeithio eu gweld gyda fflat a gyrfa dda ac y byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad. O ran fi, byddaf i’n sicr yn