Cyrhaeddodd Debbie, rhiant sengl, gyfnod yn ei bywyd lle dechreuodd holi ei hun beth roedd hi am ei wneud gyda gweddill ei bywyd.
“Roedd maethu yn rhywbeth roeddwn i wastad eisiau ei wneud, ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n bosib gan nad oedd gen i ystafell sbâr.”
Ar ôl tipyn o waith ymchwil, sylweddolodd Debbie y gallai ddod yn ofalwr i fabanod, felly cysylltodd â Maethu Cymru Caerdydd a dechrau ar ei thaith faethu.
“Rydw i wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth ac mae fy mab wrth ei fodd yn bod yn rhan o deulu maethu, rydyn ni’n gweithio fel tîm. Roedd yn 9 oed pan ddechreuon ni faethu, mae’n wych. Cafodd ei fagu ag agwedd ofalgar, ond mae’n glod i bawb. Pan fydd plentyn yn symud ymlaen, rydyn ni’n cymryd hoe fach ac yn mynd ar wyliau ac yna’n aros i’r babi nesaf ddod ein ffordd.”
Cyflawniad mwyaf Debbie yw gweld y babanod yn gwneud cynnydd ac yn datblygu tra yn ei gofal. Ei chyngor i unrhyw un sy’n ystyried maethu yw
“Gwnewch eich ymchwil, siaradwch â’r tîm. Nid yw bob amser yn hawdd, ond dyma’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Rwy’n hynod falch o’r babanod rydw i wedi’u cael yn fy nghartref ac rwy’n teimlo’n hynod lwcus i fod yn y sefyllfa freintiedig i fod yn ofalwr maeth.”
Eisiau dechrau eich taith faethu eich hun?
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom , a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych yn byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru , lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.