stori

35 mlynedd o faethu babanod gan jan yng nghaerdydd

Aelodau o Faethu Cymru Caerdydd sydd ymhlith y rhai sydd wedi bod wrthi hiraf

Ers bron i 35 mlynedd, mae Jan, Gary a’u teulu wedi agor eu cartref – a’u calonnau – i fabanod ledled Caerdydd.  Wedi gofalu am 70 o blant a throsglwyddo 65 i deuluoedd mabwysiadol cariadus, mae eu stori yn un o ymrwymiad, sefydlogrwydd, a’r gred bod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd.

Dyma eu hanes.

cychwyn arni:  “roedden ni’n gwybod erioed ein bod ni eisiau maethu”

Cyn priodi, roedd Jan wastad wedi gweithio gyda phlant. Roedd gofalu yn naturiol iddi, ac roedd maethu yn teimlo fel y peth naturiol i’w  theulu wneud.

“Roedd gyda ni bump o blant ein hunain ac roedden ni wedi mabwysiadu un. Fe wnaethon ni aros nes bod ein ieuengaf yn 18 mis oed ac yna fe ddechreuon ni faethu. Roedden ni eisiau rhoi’r un plentyndod i blant eraill â’r plentyndod roedden ni wedi ei gael.”

O’r cychwyn cyntaf, roedd Jan yn mwynhau gofalu am fabanod – fel arfer rhai  newydd-anedig a hyd at ddwy oed. Dyma lle mae ei chryfderau, ei hamynedd, a’i phresenoldeb tawel yn disgleirio.

rôl a newidiodd fywyd

Er bod Jan yn gwybod y byddai maethu yn newid ei bywyd, gwnaeth y realiti daro go iawn pan gyrhaeddodd y babi cyntaf ei chartref.

“Rydych chi’n sylweddoli eich bod chi’n gyfrifol am blentyn rhywun arall. Mae’n gyfrifoldeb enfawr.”

Dros y degawdau, mae Jan wedi gweld maethu yn newid – heriau gwahanol, amgylchiadau gwahanol, ond bob amser yr un ymrwymiad i roi diogelwch, cariad a chysondeb i bob plentyn.

gofalu am 70 o fabanod – a chadw mewn cysylltiad

Mae Jan wedi gofalu am ryw 70 o blant, gyda 65 yn symud yn eu blaen at deuluoedd mabwysiadol ac eraill yn dychwelyd adref i’w teuluoedd biolegol.

Mae hi’n cadw mewn cysylltiad â llawer o’r teuluoedd – yn derbyn lluniau, yn cwrdd, a hyd yn oed fynd i briodasau plant y gofalodd amdanyn nhw pan oedden nhw’n fabanod newydd-anedig.

I Jan, y canlyniad gorau bob amser yw’r un sy’n iawn i’r plentyn – boed hynny’n mynd adref neu’n symud ymlaen i deulu am byth.

“mae pob babi yn wahanol” – ac mae pob dydd yn dod â rhywbeth newydd

O ymweliadau ysbyty i drefniadau dydd i ddydd, ffocws Jan bob amser yw rhoi’r dechrau gorau posibl i bob babi.

“Rwy’n ymweld â llawer o fabanod yn yr ysbyty ac yn aros gyda nhw nes iddyn nhw allu cael eu rhyddhau. Mae babanod yn cael cyswllt dair gwaith yr wythnos â theuluoedd biolegol. Mae’n rhaid i chi gael empathi – mae rhai rhieni yn ifanc neu heb gael y dechrau gorau mewn bywyd eu hunain.”

Mae ei thosturi yn ymestyn i bawb.  Gofynnodd un fam ifanc a allai hi fyw gyda Jan hefyd.

cefnogaeth, cyfeillgarwch a chymuned caerdydd

Ar ôl bron i 35 mlynedd, mae un peth wedi aros yn gyson: ei system gefnogaeth.

“Rydyn ni’n cael cefnogaeth wych gan Faeth Cymru Caerdydd a gofalwyr maeth eraill. Mae rhai wedi bod gyda ni trwy’r cyfan.”

Ac mae hi bob amser wedi maethu gyda’r awdurdod lleol.

“Rwy’n credu y dylai plant Caerdydd dderbyn gofal gan ofalwyr Caerdydd.”

helpu babanod i bontio i fywyd gyda theuluoedd mabwysiadol

Mae cefnogi babanod gyda theuluoedd mabwysiadol yn rhoi pleser mawr i Jan.

“Mae’r pontio fel arfer yn cymryd 6-7 diwrnod.  Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â mabwysiadwyr a gweld eu hyder yn tyfu. Erbyn diwedd yr wythnos, nhw sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gofalu. Mae’n hyfryd gweld y berthynas yn ffurfio.”

Mae’r teulu cyfan – gan gynnwys wyrion – yn ffarwelio yn ystod y dyddiau cyn y symud. Ar y diwrnod ei hun, mae Jan yn gwneud yn siŵr ei fod yn achlysur hapus.

“Dyma ddiwrnod y mabwysiadwr.”

Mae unrhyw ddagrau yn cael eu cadw ar gyfer eiliadau preifat.

“Wnaethon ni ddim dechrau maethu i gadw’r babanod. Fe wnaethon ni mynd i’r maes i  roi’r canlyniad gorau posibl i’r plant.”

Mae profiad wedi helpu Jan i ymdopi, ond dyw’r emosiwn byth yn diflannu – na’r llawenydd.

bywyd teuluol a bywyd o dydd i ddydd

Mae maethu wedi siapio bywyd Jan a bywyd ei theulu cyfan.

Mae ei wyrion hefyd yn croesawu pob babi gyda chariad a dealltwriaeth.

Mae wythnos arferol yn cynnwys:

  • Gofalu am anghenion dyddiol y babi
  • Cyswllt â’r teulu biolegol sawl gwaith yr wythnos
  • Gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol
  • Gweithio gyda rhieni mabwysiadol

“Nid yw pawb yn cael yr un lwc mewn bywyd. Weithiau mae angen torri’r cylch.”

cyngor i rai sy’n ystyried maethu

Mae canllawiau Jan yn syml ac yn onest:

“Siaradwch â gofalwyr maeth i gael gwybod y stori go iawn. Nid ‘achub’ plant ydych chi – gofalu amdanyn nhw rydych chi.  Dydych chi ddim yn ei wneud e am yr arian. Mae’n 24/7, dyw hi ddim yn swydd y gallwch ei diffodd.”

Ond yr hyn sy’n rhoi boddhad?

“Mae’r babanod yn dod â llawenydd i fi bob dydd. Eu gweld nhw’n gwenu a rhoi dechrau da iddyn nhw mewn bywyd – dyna pam rydw i’n ei wneud e.”

edrych yn Ôl – ac edrych ymlaen

Wrth i Jan agosáu at ymddeol, mae hi’n gwybod y bydd yr atgofion yn aros gyda hi am byth.

“Mae’n gwybod fy mod wedi helpu i roi’r sylfeini yn eu lle yn deimlad gwych.  Mae gweld plant yn ffynnu yn anhygoel.”

A beth mae hi eisiau i bobl ei ddeall am ofalwyr maeth?

“Rydych chi’n rhoi dechrau da i blant mewn bywyd.  Mae pob dydd yn wahanol, ond rydyn ni’n caru’r hyn rydyn ni’n ei wneud.”

ydych chi’n ystyried maethu yng nghaerdydd?

Mae stori Jan yn dangos y gwahaniaeth trawsnewidiol mae gofalwyr maeth yn ei wneud – yn enwedig pan fydd plant yn aros yn agos at eu cymuned, ysgolion a rhwydweithiau teuluoedd biolegol.

Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd ac eisiau gwybod mwy am faethu gyda gwasanaeth maethu eich awdurdod lleolanfonwch neges aton ni ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n byw yn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch weld y cyfan am wasanaeth eich awdurdod lleol gan gynnwys manylion cyswllt.

Rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch