stori

Stori Llwyddiant Beth

Roedd maethu wastad wedi bod yn rhywbeth roedd Beth wedi meddwl amdano.  Cododd cyfle iddi roi cartref i fyfyrwyr o Norwy ar drip ysgol, a dyma pryd sylweddolodd pa mor hawdd oedd hi, a daeth ei theulu i arfer gyda chael pobl yn eu tŷ nad ydyn nhw’n aelodau o’r teulu. “Roedd yn brofiad gwych; Fe wnaethon ni i gyd ei fwynhau’n fawr.” 

Dyma’r anogaeth yr oedd angen ar Beth i wneud cais i fod yn ofalwr maeth.

I ddechrau, bu Beth yn maethu gydag asiantaeth, ond ar ôl tair blynedd sylweddolodd hi nad oedd yn gweithio iddi hi a’i theulu. Roedd ei phlentyn ieuengaf yn 11 oed ar y pryd ac roedd hi’n teimlo nad oedden nhw’n cael eu paru â’r plant cywir ac nad oedd y cymorth ar gael iddyn nhw felly penderfynodd drosglwyddo i Faethu Cymru Caerdydd.

“Dw i wrth fy modd gyda fy swydd, gwneud pethau gyda’r plant a’u rhoi nhw ar ben ffordd yn academaidd, a’u gweld nhw’n mwynhau bywyd arferol gan wybod mai chi sy’n rhoi hynny iddyn nhw.”

Mae Beth wrth ei bodd gyda’r boddhad o fod yn ofalwr maeth ac yn dweud weithiau bod y pethau bach yr un mor wych “Peidiwch byth â disgwyl diolchgarwch ond rydych chi’n ei chael mewn ffyrdd nad ydych chi’n eu disgwyl fel diolch neu wên.”  Mae hefyd eisiau sôn am yr heriau, “Rhaid bod yn realistig, pan ddechreuais i faethu gyntaf, roeddwn i’n meddwl mai fi fyddai’r Julie Andrews nesaf, yn rhedeg o gwmpas gyda’r plant gyda gwên o glust i glust ond dim fel na mae hi bob amser.”

“Dw i wedi gwneud dau leoliad brys, a gall hyn fod yn anodd gan nad ydych chi bob amser yn gwybod llawer o wybodaeth am y plentyn sy’n dod i mewn i’ch gofal, ond mae fy ngweithiwr cymdeithasol bob amser yno i roi gwybodaeth neu i roi fi ar ben ffordd.”

Mae Beth a’i theulu wedi maethu cyfanswm o 10 o blant ynghyd â chwpl o leoliadau seibiant. 

Os yw stori Beth wedi eich ysbrydoli, holwch gyda ni heddiw.

Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom , a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych yn byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan  Maethu Cymru , lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.