stori

jeevan a carole

Mae’r pâr priod Jeevan a Carole yn ofalwyr maeth yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn maethu plant ers pum mlynedd.

y teulu maeth

Dechreuodd y cyfan gydag ychydig o ysbrydoliaeth gan rai ffrindiau, a oedd yn digwydd bod yn ofalwyr maeth. Ar ôl i Carole a Jeevan benderfynu cymryd y cam cyntaf eu hunain, helpodd ein tîm lleol yng Nghaerdydd i’w paratoi ar gyfer yr hyn y byddai maethu yn ei olygu.

“Roedden nhw’n glir iawn am sut beth yw maethu mewn gwirionedd, ond yn gefnogol iawn ar yr un pryd. Roedd eu hyfforddiant yn help mawr i ni – roedden nhw’n gwneud i ni gredu y gallem ymdopi ag ef.”

“alla i aros yma?”

Dechreuodd y cwpl faethu Jamie yn 9 oed, yn wreiddiol ar sail byrdymor. Dechreuon nhw chwalu rhwystrau’n gyflym drwy dreulio amser gyda’i gilydd – a gwneud pizza. Gydag amser, newidiodd cynllun Jamie, a phenderfynwyd y byddai’n aros gyda Jeevan a Carole am byth.

“Fydda i byth yn anghofio’r diwrnod y dywedodd ‘alla i aros yma?’ Daeth i’r amlwg, drwy siarad â’r tîm gofal maeth yng Nghaerdydd mai dyma oedd yr opsiwn gorau i Jamie, ac mae wedi bod gyda ni ers hynny.”

teulu sy’n tyfu

Yn ddiweddarach, croesawodd Jeevan a Carole Seren, 8 oed, i’w teulu sy’n tyfu. Ac, er ei bod wedi cael dechrau anodd, ffynnodd Seren yn fuan gyda chariad a chefnogaeth Jeevan a Carole.

“Pan aethon ni i noson rhieni ddim mor bell yn ôl, dywedodd ei hathrawon wrthym ei bod wedi gwneud cynnydd anhygoel, a sut mae hi’n eu hudo gyda’i phersonoliaeth.”

“rydyn ni’n cael cymaint o hwyl”

Nid yw maethu’n ymwneud â bod yn ymroddedig yn unig i Jeevan a Carole, er bod hynny’n rhan fawr ohono. Mae hefyd yn ymwneud â’r caredigrwydd, yr amynedd a’r cariad rydych chi’n eu dangos bob dydd – a’r llawenydd a ddaw yn sgil hynny.

“Mae yna ddyddiau anodd, ond wedyn rydyn ni’n cael cymaint o hwyl ac yn teimlo cymaint o falchder. Mae’r teimlad hwnnw mor werthfawr – rydych chi eisiau ei botelu a’i gadw am byth.”

am ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw clywed stori Jeevan a Carole wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu, yna cysylltwch â’n tîm cyfeillgar heddiw. P’un a ydych chi eisiau gwybod mwy am faethu neu’n barod i ddechrau ar eich taith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.