Mae maethu hirdymor yn ymrwymiad a all drawsnewid bywydau—i’r plant ac i’r gofalwyr maeth sy’n eu croesawu i’w cartrefi. Fe wnaethom siarad â Claire, gofalwr maeth ymroddedig, am ei phrofiadau a’r mewnwelediadau y mae hi wedi’u cael dros y pedair blynedd diwethaf.
Pam Maethu?
Pan ofynnwyd iddi pam y penderfynodd ddod yn ofalwr maeth, rhannodd Claire, “Roedd yn rhywbeth roedden ni eisiau ei wneud erioed. Roedden ni wastad wedi meddwl am y peth ond ar y pryd roedd fy ngŵr wedi ymddeol o’r gwasanaeth tân ond yn dymuno parhau i weithio. Roeddwn i’n gweithio’n llawn amser, ond roedd y ddau ohonon ni’n meddwl bod gennym lawer i’w roi.” Y cymhelliad i wneud y penderfyniad oedd yr awydd y maent yn ei rannu i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau plant wrth gychwyn ar bennod newydd foddhaus gyda’i gilydd.
Buddion Gofal Maeth Hirdymor
Dechreuodd Claire a’i gŵr ar eu taith faethu pan leolwyd chwiorydd gyda nhw am gyfnod byrdymor. Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn fuan y byddai’r plant yn elwa o aros gyda nhw am gyfnod hirdymor. Esboniodd Claire, “Roedden ni wedi meithrin perthynas gyda’r plant, roedd gennym ni y lle, y wybodaeth, a’r cariad i’w roi iddyn nhw, felly roedden ni’n hapus i’w cael nhw gyda ni. Y budd i’r plant o aros gyda ni yn yr hirdymor yw sefydlogrwydd a gwybod mai dyma eu cartref, sy’n gwneud iddynt deimlo’n fwy cyfforddus.”
Un foment a safodd allan i Claire oedd pan wnaeth un o’r plant, a oedd yn arddangos ymddygiad nerfus i ddechrau fel plygu ei dillad a mynd â’i phlatiau i’r sinc, ddechrau ymlacio. “Nawr mae hi’n gallu ymddwyn fel unrhyw blentyn arall a theimlo’n gyfforddus yn ei chartref,” meddai Claire gyda gwên. “Hwn yw eu lle diogel.”
Goresgyn Heriau
Nododd Claire “Roedd y plant wedi bod trwy drawma, ac roedd angen i ni eu helpu trwy hyn a pharhau i wneud hynny. Mae wedi dod yn haws gan ein bod wedi meithrin perthynas, maen nhw’n ymddiried ynom, ac maen nhw’n gwybod mai dyma eu cartref.”
Paratoi ar gyfer Maethu Hirdymor
Roedd adeiladu amgylchedd cefnogol yn allweddol i lwyddiant maethu Claire. “Roedd ein teulu’n gefnogol iawn o’n penderfyniad i faethu. Siaradon ni gyda’n plant genedigol cyn gwneud cais, ac roedden nhw’n hapus iawn gyda hyn,” esboniodd. Mae’r teulu ehangach wedi croesawu’r plant fel rhan o’r teulu, gan fynd ar wyliau teuluol a chreu atgofion gwerthfawr gyda’n gilydd. “Maen nhw’n cael eu trin fel unrhyw aelod arall o’r teulu, ac maen nhw’n teimlo hynny. Mae’n hyfryd i’w weld,” ychwanegodd Claire.
Cefnogaeth gan Maethu Cymru Caerdydd
Pwysleisiodd Claire bwysigrwydd cael systemau cymorth cadarn ar waith. “Rydyn ni’n cael cefnogaeth a hyfforddiant gwych. Mae gweithiwr cymdeithasol y plant a’n gweithiwr cymdeithasol ni ill dau wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi cael llawer o hyfforddiant, sydd wedi bod yn dda iawn. Gallaf ond ddweud pethau cadarnhaol am y gwasanaeth,” rhannodd.
Cyngor i Ddarpar Ofalwyr Maeth
I’r rhai sy’n ystyried maethu, mae cyngor Claire yn syml: “Dyw e ddim mor frawychus ag yr ydych chi’n meddwl. Os oes gennych ddiddordeb, mae’n debyg bod y sgiliau gennych. Ni ddylid ei wneud ar chwarae bach, ond trafodwch e. Mae’n rhoi cymaint o foddhad. Mae rhai plant wedi cael profiadau ofnadwy, a gallwch gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau, rhoi gobaith iddynt am y dyfodol, a’u helpu i wella.”
Sylwadau i Gloi…
Mae taith Claire fel gofalwr maeth yn dangos yr effaith ddwys y gall cariad, sefydlogrwydd ac ymrwymiad eu cael ar fywyd plentyn. I Claire a’i theulu, mae maethu yn fwy na rôl yn unig—mae’n alwedigaeth sydd wedi cyfoethogi eu bywydau nhw gymaint â’r plant maen nhw wedi’u croesawu i’w cartref.
Os ydych chi erioed wedi ystyried maethu, beth am gymryd cyngor Claire a dechrau’r sgwrs? Efallai mai chi fydd y lle diogel a’r gefnogaeth gyson sydd eu hangen ar blentyn i ffynnu.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru , lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom , a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.