blog

Maethu seibiant byr yng Nghaerdydd: Taith faethu Kelly

Pan ddechreuodd Kelly a’i gŵr faethu bedair blynedd yn ôl, roedden nhw’n chwilio am ffordd newydd o wneud gwahaniaeth. Ar ôl magu pedwar o blant eu hunain, gyda’u dau blentyn hynaf eisoes yn byw’n annibynnol, roedd ganddyn nhw le ychwanegol gartref ac eisiau helpu plant sydd angen cefnogaeth.

Heddiw, maen nhw’n darparu maethu seibiant byr yng Nghaerdydd, yn croesawu plant i’w cartref a chynnig cefnogaeth werthfawr i deuluoedd a chyd-ofalwyr maeth.

Taith a Ddechreuodd Gydag un Plentyn

Dechreuodd profiad maethu cyntaf Kelly ar achlysur teuluol pwysig.

“Daeth y plentyn cyntaf aton ni fel seibiant byr ar ein pen-blwydd priodas,” cofia.

Datblygodd yr hyn a ddechreuodd fel lleoliad seibiant byr i fod yn rhywbeth mwy yn fuan iawn. Ar ôl gofalu am y plentyn yn rheolaidd, gofynnwyd i Kelly a’i gŵr ofalu amdano a’i chwaer yn y tymor hwy. Arhosodd y plant gyda’r teulu am oddeutu 18 mis cyn dychwelyd i fyw gyda’u mam ar ôl iddi hi lwyddo i drawsnewid ei bywyd.

I Kelly, roedd yn enghraifft bwerus o’r ffordd y gall gofalwyr maeth gefnogi plant a theuluoedd trwy gyfnodau heriol.

Pam mae Maethu Seibiant Byr yn Gweithio i’w Teulu Nhw

Er eu bod wedi gofalu am blant yn y tymor hwy, mae’r teulu’n canolbwyntio’n bennaf ar faethu seibiant byr yng Nghaerdydd. Mae’r hyblygrwydd yn caniatáu iddyn nhw barhau i gefnogi eu plant eu hunain a helpu eraill ar yr un pryd.

Mae Kelly yn darparu gofal seibiant byr wedi’i gynllunio’n rheolaidd, gan gynnwys gofalu am ddau blentyn sy’n frodyr/chwiorydd bob chwe wythnos am ddwy noson ar y tro. Mae aros yn rheolaidd fel hyn yn rhoi seibiant sydd ei angen yn fawr i ofalwyr maeth y plant am ychydig nosweithiau, tra’n darparu cysondeb a chynefindra i’r plant. Mae’r trefniadau yn aml yn cael eu cynllunio fisoedd ymlaen llaw, gan helpu i greu sefydlogrwydd a sicrwydd i bawb sy’n gysylltiedig.

Pan Fydd Maethu yn Dod yn Deulu

Fel llawer o deuluoedd maeth, roedd cyfnod addasu pan ddechreuon nhw gyntaf.

“Roedd ein plant ni yn ei weld yn anodd i ddechrau,” meddai Kelly.

Trwy barhau i gyfathrebu a bod yn agored a chadw arferion teuluol i fynd, fe wnaeth pawb addasu. Fe wnaeth clybiau pêl-droed, gweithgareddau teuluol a gwyliau barhau fel arfer, gan helpu’r plant maeth i deimlo eu bod wedi’u cynnwys heb amharu ar fywyd teuluol.

Dros amser, ffurfiwyd cyswllt cryf.

“Pan adawodd y plant ar ôl 18 mis, roedd ein plant ni yn beichio crio. Roedden nhw fel brawd a chwaer arall iddyn nhw.”

Daeth y plant yn rhan go iawn o’r teulu, gan rannu profiadau bob dydd a chreu atgofion gyda’i gilydd.

Cyngor i Unrhyw un sy’n Ystyried Maethu Seibiant Byr yng Nghaerdydd

Mae gan Kelly neges syml i unrhyw un sy’n ystyried maethu:

“Gwnewch hynny 100% os yw’n rhywbeth rydych chi’n meddwl amdano.”

Mae hi’n annog darpar ofalwyr i wynebu maethu gydag empathi a dealltwriaeth.

“Rhowch eich hun yn esgidiau’r plant a meddyliwch sut byddech chi’n teimlo wrth fynd i mewn i dŷ dieithryn. Mae ganddyn nhw gymaint yn digwydd yn eu bywydau.”

I Kelly, mae’r gwobrau yn llawer mwy na’r heriau.

“Os ydych chi’n gallu caru a meithrin, dylech ei wneud. Mae’n rhoi cymaint o foddhad”.

Gydag angen cynyddol am ofalwyr maeth, mae maethu seibiant byr yng Nghaerdydd yn cynnig ffordd hyblyg o wneud gwahaniaeth go iawn. Trwy agor eich cartref am ychydig ddiwrnodau neu benwythnosau ar y tro, gallwch ddarparu sefydlogrwydd, cefnogaeth a phrofiadau cadarnhaol a all gael effaith barhaol ar fywyd plentyn.

Diddordeb mewn maethu?

Os hoffech wybod mwy am faethu, cysylltwch â’n tîm:

Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom, a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych chi’n byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers