blog

Maethu fel gofalwr gwrywaidd sengl

Mae llawer o fythau yn ymwneud â phwy all faethu, un ohonyn nhw yw ‘Rydw i’n ddyn sengl, alla i faethu?’ Yr ateb i hyn yw ‘gallwch’. Gall bod yn ofalwr gwrywaidd sengl gael effaith lwyddiannus ar blentyn, yn aml gall rhywun sy’n dod o deulu heb fodel rôl gwrywaidd cadarnhaol yn bresennol elwa o’r meithriniad a’r gofal a roddir gan ofalwr maeth gwrywaidd.

Gwnaethon ni gael sgwrs gyda’r Gofalwr Maeth Geoff, sydd wedi bod yn maethu ers bron i 3 blynedd ac sydd wedi gwneud gwahaniaethau cadarnhaol i’r rhai y mae wedi gofalu amdanyn nhw.

pam wnaethoch chi benderfynu dod yn ofalwr maeth?

Roeddwn i wedi bod yn sengl ers tua 10 mlynedd, heb gael unrhyw blant fy hun ac roeddwn i’n colli cael pobl ifanc yn fy mywyd. Roedd ambell beth roeddwn i’n meddwl a allai fod wedi fy atal rhag gallu maethu fel ‘Rydw i’n byw mewn fflat heb ofod awyr agored’ ac ‘ydw i’n rhy hen i faethu’. Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi cynnig arni beth bynnag, felly fe wnes i ymholiad cychwynnol i faethu a chefais sicrwydd nad oedd y rhain yn rhwystrau i faethu.

wnaethoch chi nodi ystodau oedran y plant yr oeddech chi eisiau eu maethu?

Gwnaeth y tîm hyfryd ym Maethu Cymru Caerdydd drafod y mathau gwahanol o faethu gyda mi drwy gydol y broses asesu ac fe wnes i ddewis 10-16 oed gan fy mod i’n teimlo y gallwn i helpu plentyn hŷn yn fwy. Cefais fy mharu â rhywun yn y braced oedran hwn, ac mae wedi bod gyda mi ers 3 blynedd, rydyn ni wedi ffurfio perthynas wych.

yn eich barn chi, pa sgiliau trosglwyddadwy a oedd gennych chi sydd wedi eich helpu chi fel gofalwr maeth?

Roeddwn i’n gweithio yn yr adran gwerthu a rheoli mewn ffatri adeiladu, felly roedd yn waith gwahanol iawn ond roedd sgiliau sydd wedi fy helpu drwy gydol fy nhaith maethu fel trefnu, cyfathrebu da, dealltwriaeth a gwydnwch.

beth yw’r heriau a’r gwobrau mwyaf yn eich profiad o faethu?

Yr her fwyaf fu ei addysg; mae’n cael trafferth dysgu a phan ddaeth i fyw gyda mi am y tro cyntaf byddai’n cael ei wahardd o’r ysgol yn aml. Mae wedi datblygu’n wych yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hyd yn oed wedi ennill gwobr am y disgybl sydd wedi gwella fwyaf. Mae ei athrawon wedi dweud mai fe yw’r bachgen mwyaf hoffus maen nhw wedi ei ddysgu; ei fod yn dangos ymddygiad da tuag at yr athro ac addysg a’i bod yn bleser ei addysgu. Gwnaeth i mi deimlo’n dda, gwnaeth iddo fe deimlo’n dda.

pam wnaethoch chi benderfynu maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd?

Siaradais ag asiantaethau preifat yn ogystal â Maethu Cymru Caerdydd ond gan mai sefydliad nid-er-elw yw’r awdurdod lleol, roeddwn i’n teimlo bod lles y plentyn yn bwysicach nag elw.

Roeddwn i’n ddiolchgar i Maethu Cymru Caerdydd am fy rhoi mewn cysylltiad â phobl sydd wedi bod yn ofalwyr ers 20 mlynedd wrth fynd drwy’r broses, fe wnaethon nhw siarad â mi am yr holl heriau yr oedden nhw wedi’u hwynebu a rhoi darlun gwirioneddol o faethu i mi.  Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn ardderchog, mae’n rhoi cefnogaeth wych i mi ac mae gofalwyr seibiant yn dod ar rai penwythnosau i mi gael amser i fi fy hun. Mae llawer o gyrsiau hyfforddi ar gael hefyd.

sut byddech chi’n crynhoi eich profiad o faethu?

Rydw i’n dwli ar fod yn ofalwr maeth, yr unig beth rydw i’n ei ddifaru yw peidio â dechrau’n gynt. Mae’n llawer mwy gwerth chweil nag unrhyw swydd rydw i erioed wedi’i chael. Bydda’ i’n parhau i ofalu amdano nes fy mod yn hyderus ei fod yn ddiogel ar ei ben ei hun.

am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Geoff wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan  Maethu Cymru , lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom , a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.

Story Time

Stories From Our Carers