blog

<strong>Beth yw Llety â Chymorth?</strong>

Ym Maethu Cymru Caerdydd mae llawer o wahanol fathau o faethu a gwahanol rolau y gall gofalwyr eu chwarae, ond os nad maethu yw’r dewis iawn i chi ar hyn o bryd, yna efallai yr hoffech ystyried dod yn ddarparwr llety â chymorth.

Beth yw Llety â Chymorth?

Mae ein Darparwyr Llety â Chymorth yn cynnig ystafell sbâr yn eu cartref i bobl ifanc 16 i 21 oed sydd angen cymorth ac arweiniad cyn y gallant fyw’n annibynnol.  Maent yn croesawu pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl ifanc mewn gofal neu blant digartref 16/17 oed yn benodol. Mae Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc nad ydynt efallai’n barod i fyw ar eu pennau eu hunain ac sydd angen ychydig o arweiniad a chymorth.

Mae’r cymorth a roddir gan ein darparwyr yn cynnwys:

  • Cymorth cyllidebu
  • Help gyda golchi dillad 
  • Sgiliau coginio 
  • Gwneud ceisiadau am swyddi a llenwi ffurflenni 
  • Datblygu arferion cadarnhaol 
  • Cymorth emosiynol

Mae Llety â Chymorth yn ffordd gadarnhaol o helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder i’w galluogi i fyw’n annibynnol yn y dyfodol.  Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros am tua 6-12 mis cyn symud ymlaen, ond wrth gwrs, mae’n gallu amrywio.

Pwy all fyw mewn llety â chymorth?

Pobl ifanc sy’n:

  • Derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, 16 neu 17 oed
  • Gadael gofal, 16 – 21 oed
  • Digartref, 16 neu 17 oed

Allaf i fod yn Ddarparwr Llety â Chymorth?

Gall unrhyw un dros 21 oed sy’n byw yn ardal Caerdydd ac sydd ag ystafell sbâr wneud cais i fod yn Ddarparwr Llety â Chymorth.

Nid yw swydd lawn-amser yn eich rhwystro rhag cymryd rhan yn y cynllun. Ni fydd p’un a ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu yn effeithio ar eich cais.Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a diwylliant, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, rhyw neu statws priodasol. Y prif feini prawf yw y gallwch gynnig amgylchedd diogel a’ch bod yn barod i gefnogi person ifanc.

Caiff ein holl ddarparwyr llety â chymorth eu hasesu a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol. Bydd hyn yn cynnwys gwiriadau meddygol a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Hwylusir y cynllun gan ein Tîm Llety â Chymorth, sy’n rhan o Wasanaeth Maethu Cymru Caerdydd.

Gall dod yn ddarparwr llety fod yn brofiad hynod werthfawr ac mae wir yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl ifanc rydych yn eu cefnogi.

Os hoffech wybod mwy, gallwn gysylltu â chi i drafod y cynllun, i ateb unrhyw gwestiynau ac i drefnu ymweliad cartref os ydych am fwrw ymlaen ymhellach. 

Faint fydd fy nhaliad wythnosol?

£189 yr wythnos y byddwch yn ei dderbyn fel darparwr llety â chymorth. Bydd disgwyl i chi roi i’r person ifanc ddau bryd bwyd / bwyd bob dydd (brecwast / pryd gyda’r nos) ac ystafell wely iddo ef ei hun.

Cysylltwch â’r tîm Llety â Chymorth os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi person ifanc.

 Ffoniwch 029 2087 3797 neu e-bostiwch [email protected]

Neu llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.