Pethau i’w gwneud gyda’r plant yn ystod gwyliau’r haf hwn
Gyda’r ysgol wedi dod i ben am yr haf, nid yw bob amser yn hawdd diddanu’r plant heb dorri’r banc. Felly, rydym wedi dod o hyd i lawer o ddigwyddiadau hwyl sy’n addas i deuluoedd yr Haf hwn yng Nghaerdydd y bydd y plant, a’ch waled, wrth eu bodd â nhw!
Mae rhaglen Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau rhad ac am ddim i blant 0-25 oed ledled y ddinas rhwng mis Gorffennaf a Medi. Nod y rhaglen yw cefnogi cenedlaethau’r dyfodol yng Nghaerdydd gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros yr haf.
Bydd Haf o Hwyl yn cwmpasu’r canlynol:
- Gŵyl bythefnos ar Lawnt Neuadd y Ddinas
- Gweithgareddau ledled y ddinas
- Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol wedi’i churadu gan Actifyddion Artistig
Prif Safle’r Ŵyl yn Neuadd y Ddinas
Dyddiad: 23 Gorffennaf i 7 Awst
Beth am alw heibio Lawnt Neuadd y Ddinas ar gyfer gŵyl haf o weithgareddau llawn hwyl. Cewch gyfle i ymuno â gweithdai amrywiol, gwylio theatr wych, perfformiadau ysblennydd, cyfrannu at y gosodiad celf cymunedol, chwarae gemau, neu fwynhau’r heulwen.
Sesiynau bore Iau: Er y bydd yr ŵyl gyfan yn gynhwysol ac yn addas o ran niwroamrywiaeth, bydd sesiwn gyntaf pob dydd Iau yn sesiynau tawel wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc niwroamrywiol a’u teuluoedd.
Gweithgareddau Ledled y Ddinas
23 Gorffennaf i 5 Medi
Er mwyn cysylltu â chymaint o blant a phobl ifanc â phosibl yn ystod gwyliau’r haf, mae nifer fawr o sefydliadau’n darparu ystod eang o weithgareddau ym mhob rhan o’r ddinas.
Mae map ar wefan Caerdydd sy’n Dda i Blant sy’n dangos pa sefydliadau sy’n cymryd rhan ym mhob ardal a manylion am sut i gymryd rhan.
Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae: hyfforddiant beicio, hwylio, profiad parc dŵr, gyrwyr ifanc, triathlon iau a llawer mwy.
Rhaglen y Celfyddydau a gynhelir gan Actifyddion Artistig
Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst mae Actifyddion Artistig yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hwyl i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Y digwyddiad arbennig fydd ‘Out of Doors Live’ ar Lawnt Neuadd y Ddinas lle bydd rhaglen lawn o weithgareddau celfyddydol ac adloniant rhwng 23 Gorffennaf a 7 Awst. Yn ogystal â hyn, bydd y Rhaglen Gelfyddydol yn mynd allan i ganolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a chanolfannau hamdden ledled Caerdydd i gynnig mwy o weithgareddau celfyddydol hwyl i bawb o bob oedran.
Mae mwy o fanylion am y rhaglen yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd at wefan Caerdydd sy’n Dda i Blant: https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk/