Pam maethu gyda’ch awdurdod lleol?
Mae maethu yn rôl sy’n rhoi boddhad mawr ac sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc agored i niwed. Ond yng Nghaerdydd, mae prinder dybryd yn nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael ar gyfer nifer y plant sydd angen lle diogel i fyw. Bob blwyddyn mae angen cannoedd o deuluoedd maeth newydd ledled Caerdydd.
Ond mae llawer o bobl yn holi, pam maethu gyda’ch awdurdod lleol neu beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu i’ch awdurdod lleol neu asiantaeth annibynnol?
Pam maethu gyda’ch awdurdod lleol?
Maethu Cymru Caerdydd yw tîm maethu awdurdod lleol Cyngor Caerdydd. Dyw hi ddim yn asiantaeth faethu arferol. Rydyn ni’n rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu nid-er-elw awdurdodau lleol Cymru.
Felly sut mae hynny’n ein gwneud ni’n wahanol?
Wel, mae gennym bresenoldeb cenedlaethol wedi’i adeiladu ar arbenigedd lleol, gyda diben penodol i’n tîm, sef creu dyfodol gwell i blant lleol, nid er elw.
Efallai eich bod wedi dod ar draws asiantaethau maethu annibynnol (AMAau) hefyd, sef busnesau sy’n gwneud elw gan fwyaf. Mae llawer o resymau da pam y dylech feithrin gyda’ch awdurdod lleol yn hytrach nag asiantaeth. Er enghraifft …
Cadw plant yn lleol
Ym Maethu Cymru, Caerdydd, ein nod yw cadw plant yn lleol pan fo hynny’n iawn iddyn nhw. Mae hynny’n golygu bod y plant sy’n derbyn gofal yn gallu aros yn eu cymuned leol, yn eu hysgol bresennol gyda’u ffrindiau. Mae hefyd yn golygu nad oes gan ofalwyr maeth daith gymudo hir i ollwng a chasglu o’r ysgol, neu fynd ar ymweliadau teulu.
Ar y llaw arall, mae asiantaethau maethu annibynnol yn tueddu i fod yn rhanbarthol neu hyd yn oed yn genedlaethol. Mae hyn yn golygu efallai y bydd disgwyl i ofalwyr maeth deithio pellteroedd hirach i fynychu cyfarfodydd neu ddarparu cludiant i ardal enedigol plentyn sy’n derbyn gofal, all fod yn bellach i ffwrdd.
Cefnogaeth
Os ydych yn chwilio am resymau i fod yn ofalwr maeth gyda Chyngor Caerdydd, mae’r system gymorth ardderchog yn un ohonyn nhw.
Mae gan bob un o’n gofalwyr, a phlant sydd yn ein gofal, rwydwaith cefnogaeth leol a chyflawn, felly dydych chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun. Mae hyn yn cynnwys bod gan bob un ei weithiwr cymdeithasol ymroddedig ei hun gydag arbenigedd lleol. Maen nhw’n darparu gwybodaeth, grwpiau cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol, yn ogystal â phecyn cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu a datblygu i’ch helpu ar eich taith faethu.
Y tîm
Mae tîm Maethu Cymru Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Maen nhw’n gweithio o fewn yr un sefydliad (yn aml yn yr un adeilad) a gyda’r un tîm rheoli, sy’n gwneud y penderfyniadau dros y plentyn.
Rydyn ni wir yn dod i’ch adnabod. Dydyn ni ddim yn gorfforaeth bell nac yn ffigwr dirgel ar ddiwedd cyfeiriad e-bost. Ond yn rhan o’r gymuned leol ac yn wyneb cyfarwydd. Yn wahanol i asiantaethau maethu annibynnol, mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol dros bob plentyn sy’n derbyn gofal.
Ymunwch â’n cymuned faethu!
Drwy ddewis Maethu Cymru Caerdydd rydych chi’n dewis gweithio gyda phobl sydd am ofalu amdanoch. Pobl sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n gwbl ymroddedig. Pobl go iawn sy’n byw ble rydych chi’n byw, ac yn deall realiti bywyd yn eich cymuned.
Beth am sgwrsio ag un o’n tîm heddiw a chymryd y cam cyntaf yn eich taith faethu.