blog

Pam maethu gyda ni?

Pam maethu gyda ni?

Sut mae maethu’n llwyddiannus? Mae’n wahanol i bob teulu.  Cysylltiad sy’n bwysig.  Hapusrwydd. Sefydlogrwydd.

Sut beth yw maethu mewn gwirionedd?

Dewch i glywed gan y sawl sy’n gwybod: ein gofalwyr maeth anhygoel.

Ym Maethu Cymru Caerdydd, rydyn ni wrth law i bob rhiant maethu ar hyd eu taith. Byddwn ni’n rhoi cyngor a chymorth a byddwn ni yno i ddathlu pob llwyddiant, mawr a bach.  

Dyma stori Alastair a Marion, a  ddaeth yn ofalwyr maeth yn 2019 ar ôl penderfynu eu bod am wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc.

Y Teulu Maeth

Pam maethu gyda ni?

Mae maethu yn rhywbeth roedd Alister a Marion wedi ystyried ei wneud ers blynyddoedd lawer. Roeddent yn hyderus y gallent gynnig cartref sefydlog, cariadus i blentyn, ond nid oedd yr amseru byth yn ymddangos yn iawn iddyn nhw.

“Mae maethu yn rhywbeth roedden ni’n meddwl amdano flynyddoedd lawer yn ôl, roedden ni’n caru teulu ac eisiau agor ein cartref i blant brofi lle diogel, ond doedd yr amseru ddim yn iawn i ni.”

Un diwrnod fe welson nhw hysbyseb ar gyfer digwyddiad nos Maethu a Mabwysiadu yn eu heglwys leol a phenderfynu mynychu. Ysbrydolodd y digwyddiad Alister a Marion a’u helpu i gymryd y cam cyntaf yn eu taith faethu gyda Maethu Cymru Caerdydd. Roedd y tîm lleol yno bob cam o’r ffordd ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr hyn y byddai maethu yn ei olygu iddyn nhw a’u teulu.

“Roedden ni eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun”.

Mae maethu yn ffit naturiol i Alister a Marion. Mae’n ymwneud â mwy na chynnig cartref yn unig; mae’n ymwneud â chynnal cysylltiadau pwysig hefyd.

Mae ymuno â’n tîm yn golygu eich bod yn gwella bywydau plant yn y gymuned, gan helpu i wneud eu dyfodol yn fwy disglair.

Os ydych chi’n caru teulu, yna mae hyn i chi. Mae’n heriol ar adegau, ond mae’n werth chweil. Mae gweld y newidiadau bach hynny mewn plentyn a’u gwylio yn ffynnu mor werthfawr.”

Am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Alistair a Marion wedi eich annog i ymchwilio i fod yn ofalwr maeth, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. Cysylltwch â’n tîm heddiw i ddechrau arni.

Am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am sut mae maethu’n gweithio a beth y gallai ei olygu i chi.

Story Time

Stories From Our Carers