Maethu brodyr a chwiorydd
Ydych chi’n ystyried maethu brodyr/chwiorydd? Gallech gynnig plentyndod hapus gyda’i gilydd i frodyr a chwiorydd sydd mewn gofal.
I rai teuluoedd, nid oes gwarant bob amser y byddan nhw’n tyfu i fyny gyda’i gilydd. Dyna pam mae Maethu Cymru Caerdydd yn chwilio am fwy o ofalwyr maeth er mwyn sicrhau bod brodyr/chwiorydd sydd angen cartref cariadus yn cael eu paru â’r cartref cywir.
Rydym yn croesawu gofalwyr maeth o bob cefndir. Rydym yn credu mewn aros yn lleol a chadw brodyr/chwiorydd gyda’i gilydd. Mae cynnal bondiau rhwng brodyr/chwiorydd yn bwysig i blant, felly mae’n bwysig i ni hefyd – dyna pam mae paru brodyr/chwiorydd â theulu maeth gyda’i gilydd yn flaenoriaeth. Mae adeiladu dyfodol gwell yn aml yn ymwneud â gwneud y gorau o’r bondiau pwysig sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu rhai newydd.
Manteision maethu brodyr/chwiorydd
Mae llawer o fanteision i faethu brodyr/chwiorydd! I blant y mae eu bywydau’n cael eu troi wyneb i waered, gall aros gyda brodyr/chwiorydd fod yn hanfodol. Gall perthynas plant â’u brawd neu chwaer fod yn un o’r rhai pwysicaf a hiraf sydd ganddyn nhw yn eu bywyd.
Ym Maethu Cymru Caerdydd mae cadw brodyr/chwiorydd gyda’i gilydd yn hollbwysig. Rydym eisiau helpu i gynnal eu perthynas a rhoi ymdeimlad o berthyn a sefydlogrwydd iddyn nhw.
Gall brodyr/chwiorydd sydd wedi’u gwahanu deimlo’n unig. Gall y golled ychwanegol o fod ar wahân i’w brawd/chwaer yn ogystal â’u rhieni fod yn llethol. Mae’n bosibl y byddan nhw’n teimlo’n llai diogel, yn ei chael hi’n anodd creu cysylltiadau ac yn cael mwy o broblemau ymddygiad.
Pam maethu brodyr/chwiorydd?
Mae llawer o’n gofalwyr ym Maethu Cymru Caerdydd sy’n maethu brodyr/chwiorydd yn dweud bod gwneud hynny’n foddhaol iawn. Does dim byd gwell na gwybod eich bod yn cadw brodyr/chwiorydd gyda’i gilydd gan roi cyfle iddyn nhw dyfu i fyny gyda’i gilydd a rhannu profiadau, a’u helpu i greu’r hanes cyffredin hwnnw.
Mae dwywaith yr hwyl a boddhad yn bosibl drwy ofalu am bâr o frodyr/chwiorydd. Ym Maethu Cymru Caerdydd, rydym yn gweithio tuag at gadw brodyr/chwiorydd gyda’i gilydd gan eu bod yn deall yr hyn maen nhw wedi bod drwyddo. Rydym yn gwybod, pan fydd brodyr/chwiorydd yn cael eu cadw gyda’i gilydd, bod canlyniadau iechyd meddwl gwell i blant a llai o newid lleoliadau.
Allech chi faethu brodyr/chwiorydd?
Rydym yn chwilio am ofalwyr teuluol a allai ddarparu gofal i frodyr/chwiorydd. Bydd hyn yn cynnwys gofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd fel eu bod yn gallu parhau i fyw gyda’i gilydd pan nad ydyn nhw’n gallu bod gartref.
Os ydych yn credu y gallech helpu neu os hoffech ddysgu mwy, ewch i Maethu Cymru Caerdydd neu ffoniwch 02920 873 797 i siarad ag aelod o’r tîm heddiw.