Ym Maethu Cymru Caerdydd credwn fod llyfrau’n ffordd wych o ddatblygu dychymyg ymhlith pobl ifanc ac wrth iddynt dyfu i fyny, bydd llawer o blant yn ymwneud â chymeriadau y maent yn darllen amdanynt.
Weithiau, gall plant sy’n derbyn gofal deimlo ychydig yn wahanol i blant eraill ac efallai na fyddant yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y llyfrau y maent yn eu darllen. Dyma restr o lyfrau plant rydyn ni’n meddwl sy’n cynrychioli amrywiaeth mewn teuluoedd a diwylliannau.
Llyfrau gorau ar ofal maeth
Cyfres Tracy Beaker Jacqueline Wilson
Ysgrifennwyd bron 30 mlynedd yn ôl, mae’r gyfres Tracy Beaker wedi gwrthsefyll prawf amser. Mae Tracy Beaker wedi dod yn un o’r cyfresi plant mwyaf poblogaidd o’r 20 mlynedd diwethaf, ac mae ganddi gyfres deledu ei hun a hyd yn oed gêm fideo yn seiliedig ar y llyfrau. Er nad Tracy yw’r model delfrydol o bosibl i blant yn ymddygiadol, mae gan y gyfres galon a neges glir o dosturi i blant sydd wedi’u lleoli mewn gofal. Argymhellir i blant 9-11 oed.
Dennis and the Big Decisions – Paul Sambrooks
Mae’r llyfr lluniau bach clyfar hwn yn dilyn stori Dennis Duckling, hwyaden fach mewn gofal maeth. Y neges allweddol o’r llyfr hwn yw bod teimladau Dennis fel plentyn mewn gofal yn bwysig. Byddai’r llyfr hwn yn wych i blant ifanc nad ydynt efallai’n deall yn iawn beth mae bod mewn gofal maeth yn ei olygu eto. Argymhellir i blant 2-5 oed.
And Tango Makes Three – Justin Richardson a Henry Cole
Yn seiliedig ar stori wir dau bengwin yn Sŵ’r Parc Canolog, mae ‘And Tango Makes Three’ yn stori sy’n cynhesu’r galon. Mae’n hyrwyddo mabwysiadu ar gyfer cyplau o’r un rhyw. Byddai’r llyfr lluniau hwn ar gyfer plant iau yn fan cychwyn gwych i unrhyw rieni neu ofalwyr sy’n dymuno dechrau sgwrs gyda phlant am gyplau o’r un rhyw neu fabwysiadu gan gyplau o’r un rhyw. Argymhellir i blant 3-6 oed.
Finding a Family for Tommy – Rebecca Daniel
Wedi’i ysgrifennu ar gyfer plant mewn gofal maeth a phlant wedi’u mabwysiadu, mae ‘Finding a Family for Tommy’ yn dilyn bachgen bach sy’n chwilio am deulu newydd. Mae’r llyfr hwn yn rhoi canllawiau defnyddiol i oedolion sy’n darllen y stori i annog a chychwyn sgwrs gyda’r plentyn am faethu. Byddai’r llyfr hwn yn ddefnyddiol i blant biolegol y mae eu rhieni’n ystyried maethu a chroesawu plentyn i’w cartref. Argymhellir i blant 3-6 oed.
Families, Families, Families – Max a Suzanne Lang
Mae’r llyfr hwn yn dangos llawer o gyfuniadau gwahanol o deuluoedd. Yn cynnwys rhai darluniau hwyl, gwych o deuluoedd anifeiliaid y bydd plant iau wrth eu boddau â nhw. Argymhellir i blant 3-7 oed.
Beth am fenthyg un, neu fwy nag un o’r llyfrau gwych hyn o Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd. Galwch heibio eich cyfleuster lleol i gael gwybod beth sydd ar gael.
Gallwch hefyd bori drwy gatalog y llyfrgell yma ac os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch gadw teitl a’i gasglu mewn hyb neu lyfrgell yn agos atoch chi.
Os nad ydych yn aelod – cofrestrwch heddiw! Gallwch gofrestru ar-lein neu alw heibio i’n gweld.