blog

lleoliadau maeth i rieni a phlant

popeth sydd angen i chi ei wybod am Leoliadau Maeth i Rieni a Phlant

Math arbenigol o ofal maeth yw lleoliadau maeth i rieni a phlant. Mae gofal maeth i rieni a phlant yn eich cynnwys chi fel y gofalwr yn helpu rhieni i ofalu am eu plant, drwy eu harwain a’u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau rhianta.

Ym Maethu Cymru Caerdydd ein nod yw cefnogi rhieni a’u plant i aros gyda’i gilydd pryd bynnag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Ac rydym am gynyddu nifer y lleoliadau i rieni a phlant rydym yn eu cynnig er mwyn gwneud hyn. Fel gofalwr maeth ar gyfer lleoliadau i rieni a phlant, gofynnir i chi arsylwi a rhoi cymorth ac arweiniad i gefnogi’r rhieni i ofalu am eu plant.

Mae’r mathau hyn o leoliadau ar gynnydd, ond eto mae prinder dramatig o ofalwyr ar gael i ateb y galw. Isod, ceir mwy o wybodaeth am leoliadau i rieni a phlant a pham mae angen eich help arnom i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn.

deall lleoliadau i rieni a phlant

Weithiau, mae angen ychydig o help ar bob un ohonom o ran magu plant. Er mor werth chweil yw hi, mae’n un o’r swyddi anoddaf yn y byd o bell ffordd. Am sawl rheswm, efallai y bydd angen ychydig o help ar rai rhieni i fagu eu plant orau y gallant.

pwy yw’r rhieni?

Mae’r math mwyaf cyffredin o leoliadau i rieni a phlant yn cynnwys mamau tro cyntaf o dan 25 oed. Mae dod yn rhiant am y tro cyntaf yn frawychus ar unrhyw oed, ond i berson ifanc mae’n gallu bod yn hynod frawychus. Ym Maethu Cymru Caerdydd rydym am wneud yn siŵr bod gan y fam ifanc y sgiliau a’r cymorth angenrheidiol i fagu ei phlentyn ei hun. Mae hyn yn arbennig o wir am famau ifanc heb gymorth eu rhieni sydd efallai heb gael eu rhianta yn y ffordd orau eu hunain.

Wrth gwrs, ni fydd pob lleoliad yn cynnwys mamau a babanod ifanc. Gall rhiant sengl sydd â phlentyn hŷn fod yn ei chael yn anodd oherwydd problemau iechyd neu anableddau, neu gall tad fod yn ei chael yn anodd addasu fel rhiant sengl newydd. Fel gyda phob math o ofal maeth, dyma rôl amrywiol sy’n cynnwys rhieni a phlant o gefndiroedd amrywiol.

pa mor hir byddant yn aros?

Mae lleoliadau maeth i rieni a phlant fel arfer yn para hyd at tua 26 wythnos.  Gellir gwneud cais i’r llys i’r rhiant a’r plentyn symud ymlaen yn gynt os ydynt yn gwneud yn dda.

ydy’n gweithio?

Mae lleoliadau maeth i rieni a phlant gyda’i gilydd yn rhoi cyfle gwych i rieni ddysgu sut i rianta eu plant. Gallant brofi iddynt eu hunain ac i bobl eraill fod ganddynt y gallu i gyflawni. Mae lleoliadau maeth i rieni a phlant gyda’i gilydd yn gweithio. Mae rhieni sydd eisiau cyflawni yn aml yn cyflawni.

Fel gofalwr maeth, gallwch drosglwyddo doethineb a chynnig cymorth nes y gallant ei wneud ar eu pennau eu hunain. Nid ydych yn gwneud hyn ar eich pen eich hun, mae hyfforddiant arbennig a thîm cyfan yn eich cefnogi chi, y rhiant, a’i fabi.

Cadw teuluoedd gyda’i gilydd ac atal plant rhag mynd i mewn i’r system ofal yw’r rhan fwyaf boddhaol. Cewch wylio’r rhieni’n dod y rhieni gorau y gallant fod, a gweld eu teulu bach yn ffynnu.

I ddysgu mwy, siaradwch ag un o aelodau Tîm Maethu Cymru Caerdydd heddiw!

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.