John Lewis yn rhoi goleuni Nadoligaidd ar faethu – allech chi?
Mae hysbyseb Nadolig hir-ddisgwyliedig John Lewis wedi cyrraedd, ac eleni dydi hi ddim wedi’n siomi. Am y tro cyntaf erioed, mae John Lewis wedi cynhyrchu hysbyseb sy’n rhoi maethu wrth ei gwraidd ac yn rhoi goleuni Nadoligaidd ar ymrwymiad ac ymroddiad gofalwyr maeth.
Mae’r hysbyseb, o’r enw ‘The Beginner’, yn dangos dyn canol oed dro ar ôl tro yn ceisio ac yn methu dysgu sut i sglefrfyrddio. Ar ddiwedd yr hysbyseb, rydyn ni’n deall pam wrth i ferch ifanc yn ei harddegau, yn cydio mewn bwrdd sgrialu, gael ei chyflwyno i’r aelwyd faethu gan ei gweithiwr cymdeithasol. Mae’r hysbyseb wir yn helpu i ddangos sut mae gofalwyr maeth yn paratoi ar gyfer dyfodiad person ifanc a sut maent yn addasu eu bywydau eu hunain i fodloni eu hanghenion.
Mae’r broses o ddysgu sglefrfyrddio, gyda’r ymroddiad sydd ei angen, hefyd yn gweithredu fel darlun gwych o’r dyfalbarhad sydd ei angen ar ofalwyr maeth i weithio gyda phlant sy’n derbyn gofal sy’n aml wedi cael profiadau cymhleth yn y gorffennol. Mae’n amlygu’r rôl hollbwysig sydd gan ofalwyr maeth wrth ofalu am blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.
Mae dal angen tua 550 o ofalwyr ar draws Cymru bob blwyddyn! Dyna pam mae Maethu Cymru Caerdydd yn gobeithio recriwtio gofalwyr maeth newydd o bob cefndir ledled y ddinas. Mae sicrhau bod plant yn gallu cael eu cartrefu’n lleol yn hynod o bwysig, gan fod cadw cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol, a’u hymdeimlad o hunaniaeth, yn meithrin hyder ac yn lleihau straen.
Ydy Hysbyseb Nadolig John Lewis wedi gwneud argraff arnoch chi?
Os yw Hysbyseb Nadolig John Lewis wedi ysgogi teimlad ynoch chi ac eisiau dysgu mwy am faethu, beth am gysylltu â ni heddiw?
Eisiau gwybod mwy am faethu?
Drwy ddewis Maethu Cymru Caerdydd rydych chi’n dewis gweithio gyda phobl sydd am ofalu amdanoch. Rydym yn cynnig arweiniad, hyfforddiant a gwobrau ariannol i’ch helpu i fod y gofalwr gorau y gallwch fod. Pan fyddwch chi’n gweithio gyda ni, byddwch chi’n gwybod eich bod chi’n dewis pwrpas dros elw, gan adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.
Cysylltwch â ni heddiw a chymerwch y cam cyntaf i ddod yn ofalwr maeth yng Nghaerdydd.