Mae Helen a Martyn wedi cwblhau 30 mlynedd o faethu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw maent wedi gofalu am 30 o blant mewn lleoliadau tymor byr a hirdymor ynghyd ag ychydig mwy am seibiannau byr yn unig. Mae hyn yn gyflawniad anhygoel ac yn dystiolaeth o’u hymroddiad a’u caredigrwydd. Mae eu hymdrechion wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o fywydau.
Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Helen a Martyn i drafod eu taith faethu.
Beth wnaeth dy ysgogi i fod yn ofalwr maeth?
Roedd rhieni Martyn yn ofalwyr maeth, felly tyfodd Martyn i fyny mewn teulu oedd yn maethu. Pan wnaethon ni gwrdd, roedd maethu yn newydd i fi, ond fe ddechreuon ni helpu ei rieni trwy gefnogi’r plant yn eu gofal am seibiannau byr ac yna fe benderfynon ni wneud hyn a chael ein cymeradwyo fel gofalwyr maeth llawn amser.
Beth yw eich cyflawniadau mwyaf?
Heb os, ein cyflawniad mwyaf yw ein 30 mlynedd o faethu. Mae’n gyflawniad enfawr i fagu teulu maeth. Ni fyddem wedi gallu ei wneud heb gefnogaeth ein plant biolegol, maent bob amser wedi croesawu’r plant maeth i’n cartref a’n cefnogi trwy gydol y daith.
Mae llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau wedi bod. Mae cyrraedd 30 mlynedd wedi rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y gwahaniaeth rydym wedi’i wneud, boed yn fach neu’n newid bywyd. P’un ag yw’r plant yn symud yn ôl at eu teuluoedd, yn symud i fyw’n annibynnol, neu angen cymorth yn ystod gwyliau yn unig, mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn ffodus ein bod yn cadw mewn cysylltiad â llawer o’r plant rydym wedi gofalu amdanynt.
Beth oedd yr heriau mwyaf i chi?
Gall maethu fod yn gymysgedd o emosiynau. Rydym wedi profi cyfnodau anodd iawn, un o’r rhai mwyaf heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd profedigaeth deuluol, roedd y broses alaru yn arbennig o heriol.
Pa gymorth gawsoch chi oddi wrth Gofal Maeth Cymru?
Rydym bob amser yn cael cefnogaeth pan fydd ei angen arnom. Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwylio bob amser yn barod i wrando os oes angen ysgafnhau’r baich. Rydym wedi adnabod ein gweithiwr cymdeithasol goruchwylio ers blynyddoedd lawer ac yn teimlo ein bod yn cael ein cefnogi’n fawr. Mae bod yn rhan o dîm Maethu Cymru Caerdydd yn rhoi sicrwydd i ni ac yn ein helpu i barhau â’n taith faethu.
Beth yw eich cyngor i unrhyw un sy’n ystyried maethu?
Nid gwarchod plant yw maethu. Mae’n rhaid i chi fod yn realistig nad yw bob amser yn hawdd, ond rydyn ni wedi bod wrth ein bodd. Mae ein taith 30 mlynedd wedi cynnwys heriau, ond os gallwch gynnig y sefydlogrwydd a’r lle sydd ei angen ar blant, yna gwnewch hynny. Mae gwneud unrhyw wahaniaeth i fywyd plentyn yn gadarnhaol.
am ddechrau eich taith faethu eich hun?
Os yw darllen stori Helen a Martyn wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru , lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom , a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.