chwiorydd llety â chymorth, rona a val!
Mae Rona a Val yn chwiorydd, ac maent hefyd yn Ddarparwyr Llety â Chymorth. Mae’r ddwy yn cynnig ystafell a chymorth i bobl ifanc 16-21 oed sy’n gadael gofal neu’n ddigartref.
stori rona
Mae gan Rona gefndir gofalu, ac roedd yn gweithio i Wasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd fel Gofalwr yn y Gymuned gyda phobl hŷn pan gafodd wybod am Lety â Chymorth. Dywed “Clywais hysbyseb ar y radio ar gyfer Llety â Chymorth a meddyliais y gallwn i wneud hynny. Mae gen i ystafell sbâr. Ro’n i’n meddwl, dwi wedi magu fy nau blentyn a dwi’n gallu cynorthwyo oedolion ifanc”.
I Rona, mae bod yn ddarparwr Llety â Chymorth yn golygu helpu pobl ifanc nad ydynt efallai’n barod i fyw ar eu pennau eu hunain ac angen ychydig o arweiniad a chymorth. Mae Rona bellach wedi bod yn ddarparwr llety â chymorth ers cryn dipyn o flynyddoedd ac mae’n rhoi cymorth, diogelwch a gofal i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.
Rona fydd y cyntaf i gyfaddef ei bod wedi bod trwy gyfnodau da a drwg, ond mae hi wastad wedi credu y dylai pawb gael cyfle. “Mae rhai heb gael amser da iawn cyn dod aton ni. Felly mae’n rhoi boddhad gweld y newid ynddyn nhw wrth i chi eu helpu – dyna sy’n ei wneud yn werth chweil.
“Er fy mod wedi magu fy nau blentyn, dwi’n dal i ddysgu drwy’r amser o brofiadau gwahanol dwi’n eu cael gyda’r bobl ifanc”.
stori val
Roedd penderfyniad Val i ddod yn Ddarparwr Llety â Chymorth yn seiliedig ar sawl ffactor, ond rhywbeth a ddylanwadodd yn fawr arni oedd gwylio Rona’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau cymaint o bobl ifanc. “Cwrddais i â’r bobl ifanc yn ei chartref a meddyliais “Galla i eu helpu”.
Pan ddechreuodd Val, roedd yn gofalu am leoliadau brys. Nawr mae hi wedi agor ei chartref i bob math o bobl ifanc ac yn gwerthfawrogi pa mor amrywiol yw’r profiad. “Roedd yn dorcalonnus i ddechrau, yn gweld pobl ifanc heb unman i fynd ond rwyf wedyn wedi eu gweld yn symud ymlaen i bethau gwell. Mae cymaint o bethau cadarnhaol ynglŷn â chael pobl ifanc yn eich cartref, mae’n deimlad hyfryd pan fydd pethau’n mynd yn dda iddyn nhw. Mae pawb angen rhywun i’w cynorthwyo, ac nid oes gan y bobl ifanc hyn hynny bob amser, felly mae’n teimlo’n dda i allu helpu.”
Os yw darllen stori Rona a Val wedi eich ysbrydoli i ddechrau eich taith tuag at ddod yn Ddarparwr Llety â Chymorth, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych, ffoniwch 029 2087 3797 neu ewch i Llety â chymorth (caerdydd.gov.uk). Mae darparwyr yn cael hyfforddiant llawn a thaliadau cydnabyddiaeth.