blog

Cefnogi pobl ifanc yn eu harddegau fel gofalwr maeth

Cefnogi pobl ifanc yn eu harddegau fel gofalwr maeth

Felly sut gall gofalwyr maeth gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau? Gall cefnogi pobl ifanc yn eu harddegau fel gofalwr maeth fod yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn heriol ar adegau.

Gall eu profiadau yn y gorffennol adlewyrchu sut maen nhw’n ymddwyn; mae angen i ofalwyr maeth ddeall profiadau’r bobl ifanc yn y gorffennol a chyfathrebu â nhw ar lefel y gallan nhw uniaethu â hi. Bydd hyn yn helpu i feithrin perthynas gadarnhaol.

Felly rydyn ni wedi gofyn i arbenigwyr Maethu Cymru rannu ychydig o gyngor ymarferol ar sut i ddelio â materion cyffredin pobl ifanc yn eu harddegau, yn ogystal â helpu eich teulu gyda’r pontio i faethu.

Deallwch a byddwch yn barod

Mae angen i ni ddeall y gallai’r oedolion ifanc fod wedi profi trawma ymhell y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl ar gyfer pobl o’u hoed nhw cyn cyrraedd eich cartref. Felly mae’n bwysig cofio, os ydyn nhw’n ymddwyn mewn ffordd sy’n ymddangos yn wrthwynebus i chi, mae’n debygol iawn mai eu ffordd nhw o wneud safiad yn erbyn yr amgylchiadau sydd yma.

Byddwch yn amyneddgar, yn ddigynnwrf ac yn gariadus

Er bod eich plentyn yn ei arddegau yn siŵr o beri ymateb ynoch chi, mae’n hanfodol eich bod yn cofio bod yn ddigynnwrf.  Atgoffwch eich hun bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ymddwyn fel hyn yn gwneud hynny am nad oes ganddyn nhw  dosturi a chariad yn eu bywydau. Byddwch yn amyneddgar, yn ddigynnwrf ac yn gariadus – bydd eich plant yn eu harddegau yn dysgu dymchwel y waliau rhyngoch chi a meithrin ymddiriedaeth.

Sefydlwch ffiniau a rheolau clir

Mae’n bwysig sefydlu ffiniau a rheolau. Rhowch wybod iddyn nhw fod disgwyl iddyn nhw gyfrannu at y teulu yn yr un ffordd â phawb arall. Gwnewch eich disgwyliadau’n glir ac yn gyson ac os bydd eich plentyn yn ei arddegau yn torri’r rheolau, dilynwch y rheolau gyda chanlyniadau priodol.

Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol

Mae eich gweithwyr cymdeithasol yno am reswm, ac maen nhw bob amser yn barod i roi help llaw neu glust i wrando os oes ei angen arnoch. Mae ein gweithwyr cymdeithasol bob amser o fewn cyrraedd, yn hawdd siarad â nhw ac yn y pen draw eisiau’r hyn sydd orau i bawb. Mae rhannu syniadau, materion a mewnwelediadau ymhlith y pethau sy’n gwneud Maethu Cymru yn arbenigwyr o ran creu dyfodol hapus i’r plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.

Cofiwch, maen nhw’n dal i fod yn blant

Er y gall eich arddegwyr maeth fod yn dalach na chi ac edrych fel oedolyn, maen nhw’n dal i fod o dan 18 oed, ac mae angen yr un cariad arnyn nhw ag unrhyw blentyn arall.  Lawer gwaith, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn mwynhau’r pethau syml fel gwylio ffilm gyda’ch gilydd, ymweld â’r arcedau neu fynd allan am hufen iâ. Gall hyn fod oherwydd nad ydyn nhw wedi cael y profiadau sy’n arferol i lawer yn ystod plentyndod. Cadwch eu plentyndod yn fyw a bondiwch gyda’ch arddegwyr maeth gyda’r gweithgareddau syml, hwyliog hyn.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.