blog

<strong>Bod yn ofalwr maeth adeg y Nadolig</strong>

Bod yn ofalwr maeth adeg y Nadolig

Rydyn ni’n gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn gyfnod emosiynol i blant sy’n derbyn gofal. Gyda llawer o draddodiadau a gweithgareddau gwahanol i’r arfer a allai effeithio ar eu trefn, neu sbarduno emosiynau ac ymddygiadau. Felly nid yw’n anarferol i ofalwyr maeth newydd neu ddarpar ofalwyr maeth fod â chwestiynau am y Nadolig fel gofalwr maeth.

Felly, rydym wedi siarad â Maz, ein gofalwr maeth ein hunain o Gaerdydd.  Mae Maz a’i theulu wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd ers ychydig dros 4 mlynedd ac wrth eu boddau. Mae hi’n gobeithio ateb rhai o’r cwestiynau hynny ynglŷn â’r Nadolig, gyda’i hawgrymiadau ei hun ar fod yn ofalwr maeth adeg y Nadolig.

Beth wnaeth i ti fod eisiau bod yn ofalwr maeth?

Fy mhrofiadau fy hun drwy blentyndod. Ro’n i mewn ac allan o ofal maeth fy hun cyn i mi gael fy mabwysiadu. Gan nad oedd fy mhrofiadau personol i gyda gofal maeth yn wych, roeddwn i eisiau gwneud bywyd yn well i’r rhai sydd mewn gofal maeth nawr.

Sut Nadolig cyntaf oedd dy Nadolig cyntaf fel gofalwr maeth?

I fod yn onest yn debyg iawn ac yn normal i’n teulu ni oherwydd roedden ni’n maethu babi newydd-anedig ar y pryd. Roedden nhw’n cysgu’r diwrnod cyfan a dim ond yn deffro o gwmpas amser cinio Nadolig ac yna mynd yn ôl i gysgu.

Ond roedd Nadolig arall lle gawson ni blentyn ychydig yn hŷn yn wahanol iawn i’n Nadoligau arferol ni. Aeth yn or-gyffrous iawn a doedd e ddim yn gallu agor ei anrhegion i gyd mewn un tro, felly bu’n rhaid iddo agor ychydig ar y tro drwy gydol y dydd.

Oes gennyt ti awgrymiadau ar fod yn ofalwr maeth adeg y Nadolig?

Wedi cael profiad nawr gyda phlentyn hŷn a gan nad oedd ei Nadolig cyntaf yr hyn roedden ni wedi disgwyl iddo fod, rydym wedi sylweddoli bod llai yn fwy ac i beidio â gorysgogi. Er enghraifft, mae pentyrrau enfawr o anrhegion yn frawychus iawn, ac maen nhw’n well eu byd gyda phentwr llai o anrhegion ond o ansawdd gwell.

Hefyd dylech agor ychydig ar y tro drwy gydol y diwrnod cyfan. Er bod ein plant biolegol ein hunain yn hoffi eu hagor peth cyntaf yn y bore, rydyn ni am annog y plant i agor anrhegion pan fyddant yn teimlo yn barod. Nid yw’n ddiwedd y byd os yw anrhegion yn cael eu hagor ar ddydd San Steffan.

Rydyn ni hefyd wedi darganfod bod person rhyfedd o’r enw ‘Siôn Corn’ yn dod i mewn i’r tŷ yn gallu bod yn ofidus iawn i blant sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd trawmatig cyn dod i ofal. Felly, rydyn ni’n cael trafodaeth ar ddechrau pob mis Rhagfyr am Siôn Corn a lle mae’r plant yn teimlo y dylai adael yr anrhegion fel eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel.

Beth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i ti fel gofalwr maeth?

Y rhan fwyaf buddiol i mi yw gweld sut mae’r plant yn tyfu ac yn datblygu dros yr amser maen nhw gyda ni. I’r babis, eu gweld nhw’n cyrraedd cerrig milltir newydd. I’r plant hŷn mae’n anhygoel eu gweld nhw’n dod allan o’u cragen ac yn dechrau agor a magu hyder ynddyn nhw eu hunain.

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth?

Mae angen bod yn hyblyg, gallu deall pobl eraill ac amyneddgar. Mae’n bwysig datblygu rhwydweithiau gyda gofalwyr maeth eraill a gweithwyr cymdeithasol, fel bod gennych chi bobl y tu ôl i chi sy’n gwybod beth rydych chi’n mynd trwyddo. Byddwch yn barod i agor eich calon a gadael i’r plant hyn i mewn yn llawn, mae angen eich cariad a’ch sylw arnynt ond byddwch yn barod i ffarwelio oherwydd bydd yn drist. Dyma’r swydd sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yn y byd.

Story Time

Stories From Our Carers