
Fel rhan o’r Pythefnos Gofal Maeth eleni, rydym yn dathlu pŵer perthnasoedd—y bondiau sy’n trawsnewid bywydau, yn creu sefydlogrwydd, ac yn helpu plant i ffynnu. Mae Delwara, gofalwr maeth gyda 15 mlynedd o brofiad, yn rhannu’r ffordd y mae perthnasoedd cryf, gofalgar wedi siapio ei thaith faethu.
Mae Delwara wedi bod yn ofalwr maeth ers 2010, gan rannu’r rôl gyda’i gŵr. Gyda’i gilydd, maent wedi croesawu a chefnogi plant o bob cefndir, tra hefyd yn magu plant eu hunain. Dros y 15 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi darparu gofal hirdymor yn bennaf ac yn dal i gefnogi tri pherson ifanc yn eu cartref heddiw.
Meddyliodd Delwara am faethu am y tro cyntaf ar ôl siarad â chymydog oedd yn ofalwr maeth. “Dywedodd wrtha i pa mor werth chweil oedd e, a sylweddolais ei fod yn rhywbeth roeddwn i wir eisiau ei wneud,” meddai. “Roeddwn i’n hoffi’r syniad o helpu plant sy’n agored i niwed a rhoi yn ôl i’r gymuned.”
Ar y dechrau, roedd Delwara yn ystyried maethu fel gwneud swydd – ond dros amser, sylweddolodd pa mor ddwfn y gall y perthnasoedd hynny dyfu. “Nawr mae rhai o’r bobl ifanc yn ein gweld ni yn fwy fel teulu na’u teulu nhw eu hunain. Rwyf eisiau iddyn nhw wybod y bydda i bob amser yma iddyn nhw, hyd yn oed os ydyn nhw’n symud allan. Mae angen iddyn nhw deimlo’n ddiogel a gwybod na fydd y berthynas honno yn dod i ben.”
Nid yw datblygu ymddiriedaeth bob amser yn hawdd, ond mae Delwara yn cymryd amser i ddeall stori pob plentyn. “Mae gwrando a dangos empathi mor bwysig. Rydych chi’n dechrau gweld beth maen nhw wedi bod drwyddo ac yn dod o hyd i ffyrdd gwell i’w helpu.”
Mae gan faethu ei heriau hefyd. “Gall eich llethu yn emosiynol,” mae’n cyfaddef. “Mae rhai plant yn dod ag ymddygiadau y mae angen i chi eu deall cyn i chi allu helpu. Roedd un plentyn yn ofni cawodydd oherwydd ei fod wedi cael ei gosbi gyda rhai oer yn y gorffennol. Byddai un arall yn sgrechian ac yn ffrwydro nes i fi ddysgu beth oedd yn sbarduno’r teimladau hynny. Unwaith yr oeddwn i’n ei ddeall yn well, newidiodd bopeth.”
I Delwara, mae’r peth mwyaf pwerus y gall gofalwr maeth ei gynnig yn syml: “Byddwch yno, gwrandewch, peidiwch â barnu. Mae hynny’n ddigon.”
Mae cefnogaeth gan ofalwyr eraill a thîm Maethu Cymru Caerdydd wedi bod o gymorth mawr ar hyd y ffordd. “Mae gennym grŵp o ofalwyr sy’n cwrdd yn rheolaidd gyda’r plant, yn enwedig os ydyn nhw’n frodyr a chwiorydd – rydyn ni’n gwneud yn siŵr eu bod yn cadw mewn cysylltiad. Ac rwy’n gwybod y galla i bob amser ddibynnu ar y tîm am hyfforddiant, cwnsela, neu rywun i siarad â nhw.”
Mae’r gwobrau yn gwneud y cyfan yn werth chweil. “Methodd un o’r bobl ifanc roeddwn i’n gofalu amdanyn nhw ei TGAU, ond wnaeth hi ddim rhoi’r ffidl yn y to. Rhoddodd gynnig arni eto, gwnaeth hi brentisiaeth, daeth hi’n ôl gartref am gyfnod, a chwblhau gradd yn y pen draw. Mae hi’n ferch ifanc anhygoel nawr.”
I Delwara, mae maethu wedi newid ei bywyd. “Rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi dod yn ofalwr maeth. Helpu plant, gwneud eu bywydau yn well, a chefnogi’r gymuned – dyna un o’r pethau gorau rydw i wedi’i wneud erioed.”
am ddechrau eich taith faethu eich hun?
Os yw darllen stori Helen a Martyn wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru , lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom , a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.