blog

Mae plant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa angen eich help!

Mae plant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa angen eich help!

Mae plant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa yn cyrraedd Caerdydd yn chwilio am gymorth, sefydlogrwydd, ac arweiniad.

Mae’n daith na fyddech chi eisiau i neb orfod ei chymryd, yn enwedig plentyn. Fodd bynnag mae pobl ifanc yn cyrraedd y DU, ar eu pennau eu hunain neu wedi eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn ystod y daith – yn chwilio am ddiogelwch a gofal.

Beth sy’n digwydd iddyn nhw, a sut gallwch chi eu helpu?

O ba wlad maen nhw’n dod?

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n cyrraedd y wlad hon i geisio lloches yn dod o wledydd lle mae rhyfel, gwrthdaro a gormes. Gyda’r gwrthdaro yn Wcráin, efallai y gwelwn ni gynnydd yn nifer y ffoaduriaid ifanc sy’n dod o’r wlad hon dros y misoedd nesaf.

Pa mor hir byddant yn aros?

Bydd hyn yn dibynnu ar oedran y person ifanc, ei allu i fyw’n annibynnol a’i statws mewnfudo. Drwy gynnig arweiniad, cyfleoedd, a sefydlogrwydd, gallwch adeiladu dyfodol llewyrchus i berson ifanc sydd ei angen fwyaf. 

Ydw i’n talu am ddillad a phrydau bwyd y plentyn?

Byddwch yn derbyn lwfans maethu i dalu am ofynion y person ifanc sydd gyda chi.  Bydd oedran a lefel annibyniaeth y person ifanc yn pennu a oes angen gofal maeth arnynt neu lety â chymorth.

A oes angen eu hystafell wely eu hunain arnynt?

Oes. Fel gyda phob math o faethu, bydd plant angen eu hystafell eu hunain lle gallant deimlo’n ddiogel, yn eu gofod eu hunain.  O bryd i’w gilydd efallai y bydd gennym frodyr a chwiorydd sydd angen rhywun i ofalu amdanynt. Yn aml, gall brodyr a chwiorydd rannu ystafell. 

A yw ffoaduriaid ifanc yn siarad Saesneg?

Efallai eu bod nhw’n gwybod fawr ddim neu ddim ond ychydig eiriau o Saesneg.  Byddan nhw’n awyddus i ddysgu geiriau bob dydd gennych chi ac yn mynychu dosbarthiadau Saesneg lleol. Bydd angen llawer o gymorth arnynt i lywio’r systemau a’r prosesau mewnfudo ffurfiol. Bydd gweithiwr y person ifanc yn helpu llawer gyda hyn hefyd. 

Sut galla i helpu plentyn sy’n ceisio lloches i deimlo bod croeso iddo?

Waeth beth yw eich cefndir a/neu’ch crefydd, gallech helpu’r bobl ifanc hyn i deimlo’n gyfforddus trwy ddysgu rhai geiriau a ryseitiau o’u mamwlad. Mae’r plant hefyd yn byw yn bell oddi cartref, felly gallai mynediad at y we eu helpu i deimlo cysylltiad neu fod yn ffordd iddynt gysylltu â’u teulu i roi gwybod iddynt eu bod yn iawn.

Mae plant ifanc a phobl ifanc sy’n ceisio lloches yn chwilio am le diogel, dealltwriaeth ac arweiniad ar y cam nesaf ar eu taith. Gyda’n cefnogaeth a mynediad at ystod eang o wasanaethau yn Maethu Cymru Caerdydd, gallwch helpu plant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches i oresgyn heriau aruthrol.

Os hoffech ddysgu mwy neu siarad ag aelod o dîm Maethu Cymru Caerdydd heddiw, ewch i:  Mathau o Ofal Maeth | Maethu Cymru Caerdydd (llyw.cymru)

Story Time

Stories From Our Carers