Gyda gofal maeth, yr hyn sydd bwysicaf yw darparu cartref diogel a gofalgar i blant sydd ei angen. Nid yw eich cyfeiriadedd rhywiol yn newid eich gallu i gynnig cariad, cefnogaeth a sefydlogrwydd. P’un ag ydych yn LHDTC+ neu beidio, yr hyn sy’n cyfrif yw creu amgylchedd cadarnhaol lle gall plant dyfu a ffynnu. Yr hyn sy’n bwysig yw’r cariad a’r gofal rydych chi’n ei ddarparu, waeth pwy ydych chi.
Fe wnaethon ni gwrdd â Claire a Heather, cwpl o’r un rhyw a oedd â’u amheuon cyn archwilio’r llwybr maethu oherwydd eu rhywioldeb ond sydd wedi cael eu croesawu i’r tîm ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant.
Roedd maethu bob amser yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud hyd yn oed pan oeddwn i’n ifanc. Cefais fy ngwneud yn ddi-waith o’m swydd fel gofalwr cartref ac fe wnes i ymholi am faethu a dyna pryd ddechreuodd y daith – 14 mlynedd yn ôl. Roeddwn i’n poeni ychydig am ddod yn ofalwr maeth, roeddwn i’n bryderus i ddechrau fel cwpl o’r un rhyw oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl bod llawer yn ein sefyllfa ni’n maethu, ond doedd dim angen poeni oherwydd cawsom ein croesawu â breichiau agored. Roedd gen i lawer o gwestiynau ar y camau cychwynnol ond cefais yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf gan y tîm.
I mi, mae maethu plentyn yn golygu bod y plant hynny sydd angen cartref cariadus yn cael y gefnogaeth a’r cariad y maent yn eu haeddu. Rydyn ni wrth ein bodd yn gofalu am y plant. Mae rhai plant wedi bod trwy gymaint yn eu bywydau ifanc, maen nhw’n haeddu’r gorau, rydyn ni’n rhoi llawer o gariad iddyn nhw.
Rydych chi yn cael eich gwobrwyo’n ariannol fel gofalwr maeth ond nid dyna’r peth pwysig i ni. Pe baem yn ennill y loteri, bydden ni’n byw mewn plasty ac yn helpu cymaint o blant ag y gallen ni. Os oes gennych lot o gariad, amynedd a’ch bod yn barod i agor eich cartref, dylech ystyried maethu. Mae eich bywyd yn newid pan fyddwch chi’n dod yn ofalwr maeth, ond rydych chi hefyd yn newid cymaint o fywydau ifanc er gwell.
Os ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth, peidiwch â phetruso. Ewch amdani, dilynwch eich calon oherwydd gallwch chi newid bywydau plant.
Os yw darllen stori Claire a Heather wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru? Anfonwch neges atom, a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.