blog

Pethau i’w gwneud gyda’r plant yn ystod gwyliau’r haf hwn

Pethau i’w gwneud gyda’r plant yn ystod gwyliau’r haf hwn

Gyda’r ysgol wedi dod i ben am yr haf, nid yw bob amser yn hawdd diddanu’r plant heb wario ffortiwn. Felly, rydyn ni wedi dod o hyd i lawer o bethau sy’n addas i’r teulu i’w gwneud gyda’r plant dros wyliau’r haf yng Nghaerdydd y bydd y plant, a’ch waled, wrth eu bodd â nhw.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yma fe welwch feteorynnau, ffosiliau a sgerbydau deinosoriaid enwog, sgerbwd morfil cefngrwm ochr yn ochr â channoedd o greaduriaid eraill, ynghyd â phaentiadau, cerfluniau a serameg gan rai o artistiaid enwocaf y byd yn yr orielau celf. Fe welwch hefyd arddangosfeydd arbenigol. Cymerwch olwg ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru

Morglawdd Bae Caerdydd

Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn berffaith i fynd â’r plant ar eu beics neu sgwteri, mewn safle arforol prydferth lle cewch olygfeydd bendigedig o Aber Afon Hafren. Mae yna hefyd nifer o lwybrau addysgol a mannau gwybodaeth sy’n rhoi cipolwg ar hanes y Bae, fel adroddiad o daith y Capten Scott i’r Antarctig. Hanner ffordd ar draws y morglawdd mae ardal chwarae i blant ar y thema môr-ladron, parc sglefrio a chyfleusterau toiledau.

Llwybr Cerfluniau Fforest Fawr, ger Castell Coch, Tongwynlais

Mae’r coetiroedd o amgylch Castell Coch yn ardal hyfryd i’w chrwydro. Mae’r llwybr cerfluniau yn mynd â phlant ar daith hudolus drwy’r goedwig, yn ogystal â llwybrau eraill ar gyfer cerdded a beicio. Gallwch ychwanegu ymweliad â Chastell Coch, er y codir ffioedd mynediad. 

Castell Caerdydd

Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o arwyddocâd rhyngwladol. Cerddwch trwy ein gatiau i ddarganfod stori a ddechreuodd 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae gennych hawl i’ch Allwedd eich hun i’r Castell gyda mynediad AM DDIM am 3 blynedd i’r atyniad treftadaeth hwn o’r radd flaenaf. Ewch i’r wefan i ddysgu sut i gael yr allwedd i’r castell.Castell Caerdydd • 2000 mlynedd o hanes yng nghanol y ddinas

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd

Mae’r amgueddfa awyr agored yn dod â hanes y Cymry yn fyw gyda dros 100 o adeiladau wedi’u hailgodi ar y safle, gan gynnwys ysgol Fictoraidd, rhes o fythynnod glofaol yn y Cymoedd, capel a thai fferm. Mae mynediad am ddim er bod tâl am barcio ceir. Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan | Amgueddfa Cymru

Llwybr Trysor a Gwlyptiroedd Bae Caerdydd

Mae angen help ysbïwr ar Asiantaeth Cudd-wybodaeth Cymru i ddatrys argyfwng cenedlaethol. Mae dogfennau cyfrinachol dros ben wedi mynd ar goll o’r Senedd, a’r gelynion enwog, y BRATS, sydd ar fai. Mae’r coffor sy’n cynnwys y dogfennau wedi’i olrhain, ond mae angen i ni wybod y cod! Allwch chi ddatrys y cliwiau cudd a defnyddio eich craffter i ddod o hyd i’r cod i niwtraleiddio’r bygythiad? Codir ffioedd am y digwyddiad hwn.

Llwybr a Gwlyptiroedd Bae Caerdydd | Pethau i’w Gwneud ym Mae Caerdydd | Llwybrau Trysor De Cymru

Story Time

Stories From Our Carers