Maethu Cymru Caerdydd yn lansio cystadleuaeth gelf i blant.

Oes gennych chi ddarpar Picasso ar eich aelwyd? Yn 2023, beth am gael eich plant i gymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Gelf Ar-lein wych, gyda gwobrau o hyd at £50?

Mae ein cystadleuaeth ar agor i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r thema, yn syml, ar gyfer pob cais yw ‘Hapus’. Fel gwasanaeth maethu yr awdurdod lleol, mae Maethu Cymru Caerdydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i gartrefi diogel a chariadus i blant agored i niwed ledled Caerdydd ac felly mae’r thema hon yn arbennig o addas i’n cystadleuaeth.

Gall y ceisiadau fod yn ddarluniau, paentiadau, collage, gorau po fwyaf creadigol – mae croeso i unrhyw beth, ond rhaid iddynt ddefnyddio templed Maethu Cymru Caerdydd!

Pwy gaiff gystadlu?

Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob plentyn 11 oed ac iau o Gaerdydd, ac mae wedi ei rhannu’n dri chategori oedran:

  • 5 ac iau
  • 6 – 8
  • 9 – 11

Bydd taleb werth £50 yn brif wobr ym mhob categori oedran. Bydd yr ail wobr yn daleb werth £30 a’r drydedd yn £15. Bydd y masgot Tobi’r Arth hefyd yn cael ei roi fel gwobr.

I gystadlu

Tynnwch lun o waith celf eich plentyn a’i gyflwyno drwy [email protected] cyn y dyddiad cau, sef 21 Ebrill. Cofiwch gynnwys oedran, enw, ac ysgol eich plentyn pan fyddwch yn cyflwyno’r cais.  Dim ond un cais fesul plentyn a ganiateir.