ffyrdd o maethu

eisoes yn maethu?

Dewiswch Maethu Cymru Caerdydd

Mae Maethu Cymru Caerdydd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, i gyd yn cydweithio tuag at yr un nod.  Ein pwrpas yw cynorthwyo a grymuso gofalwyr maeth ac adeiladu’r dyfodol disgleiriaf posibl i blant lleol – nid gwneud elw.

Os ydych yn ofalwr maeth presennol ac nad ydych yn maethu drwy eich Awdurdod Lleol eto, gallwch drosglwyddo i Faethu Cymru.

Adult helping young boy with homework sitting at table

anteision maethu gydag awdurdod lleol

Mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol.  Felly, mae’n gwneud synnwyr gweithio gyda gwasanaeth yr Awdurdod Lleol, Maethu Cymru.

Ein hangerdd, ac yn fwy na hynny ein nod, yw helpu plant lleol i fyw bywydau hapus, diogel a sefydlog. Rydyn ni wedi’n lleol yn ein cymunedau, ac felly rydyn ni’n deall yr heriau sy’n gallu bodoli, a’r gwasanaethau cymorth lleol sydd wrth law.

Mae’r dyddiau cyntaf yn y system ofal yn gallu bod yn annifyr iawn i blentyn. Drwy faethu gyda’ch awdurdod lleol, gall plant aros yn lleol ac mewn amgylchedd sydd mor gyfarwydd â phosibl.

Young boy and adult having fun outdoors with child over adults shoulder

Yr hyn y mae Maethu Cymru Caerdydd yn ei gynnig

  • Gwobrwyon ariannol hael. Mae maethu 1 plentyn am flywddyn gyfwerth â chyflog o £25,000
  • Pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth, gan gynnwys grwpiau cymorth arbenigol
  • Mynediad at wasanaethau ‘enfys’ therapiwtig mewnol
  • Amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant i gynorthwyo gyda dysgu a datblygu
  • Aelodaeth CADW
  • Tocynnau am ddim neu am bris gostyngol i gyngherddau sy’n addas i deuluoedd sy’n digwydd yng Nghaerdydd
Woman and young girl using computer to make video call

trosglwyddo heddiw

Get In Touch

  • Cyngor Caerdydd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.